Ivor Rees

Oddi ar Wicipedia
Ivor Rees
Ganwyd18 Hydref 1893 Edit this on Wikidata
Felin-foel Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1967 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Fictoria Edit this on Wikidata

Milwr o Gymro oedd Ivor Rees VC (18 Hydref 189311 Mawrth 1967). Derbyniodd Groes Fictoria, yr addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rees yn Felinfoel ar 18 Hydref 1893 y pumed o saith o blant i David ac Anne Rees[1]. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio yng Waith Dur, Llanelli hyd nes i'r Rhyfel Mawr gychwyn pan ymunodd Rees â'r 11eg Bn. Cyffinwyr De Cymru ar 9 Tachwedd 1914.

Roedd y Cyffinwyr yn rhan o 38in Adran (Gymreig) y Fyddin fu'n brwydro yn Mametz Wood cyn symud i Ypres, lle roeddent yn rhan o'r frwydr i geisio cipio Crib Pilckem yn Nhrydedd Brwydr Ypres.

Dyfarniad y VC[golygu | golygu cod]

Ar 31 Gorffennaf 1917 cafodd Bye ei enwbu am y Groes Fictoria yn dilyn y weithred a ddisgrifir yma:

Ar 31 Gorffennaf 1917 yn Pilckem, Gwlad Belg, roedd dryll peiriannol yn achosi nifer o golledion. Llwyddodd Sarjant Rees i arwain ei blatŵn yn raddol o amgylch yr adain dde tuag at gefn safle'r dryll. Pan roedd 20 llath o'r dryll, brysiodd Sarjant Rees tuag ato gan saethu un o'r milwyr a thrywanu'r llall gyda'i fidog. Llwyddodd i fomio safle concrit gan ladd pump o'r gelyn a chymnryd 30 o garcharorion, gan gynnwys dau swyddog a chipio dryll peiriannol.

— London Gazette, 14 Medi 1917[2]

Mae ei Groes Fictoria yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Cyffinwyr De Cymru yn Aberhonddu, Powys

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd i Lanelli ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn Uwch-ringyll yn y Gwarchodlu Cartref (2il Bataliwn Sir Gaerfyrddin). Bu farw yn Llanelli ar 12 Mawrth 1967.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams, Alistair. Heart of a Dragon: The VCs of Wales and the Welsh Regiments. Bridge Books. t. 164. ISBN 9781844940288.
  2. London Gazette: (Supplement) no. 30284. pp. 9532–9533. 1917-9-14.