Irish Ferries

Oddi ar Wicipedia
Irish Ferries
Math
busnes
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig preifat
Sefydlwyd1973
PencadlysDulyn
Gwefanhttp://www.irishferries.com/ Edit this on Wikidata


MS Ulysses yn cyrraedd porthladd Dulyn

Cwmni fferi Gwyddelig yw Irish Continental Group plc, yn masnachu fel Irish Ferries. Mae'n cynnig gwsanaeth fferi o borthladd Dulyn i Gaergybi ac o Rosslare i Roscoff, Cherbourg a Doc Penfro.

Llong fwyaf y cwmni yw'r Ulysses, y fferi geir fwyaf yn y byd o ran y nifer o geir y gall eu cario. Mae'n hwylio ar y daith Dulyn - Caergybi. Ymhlith llongau eraill y cwmni mae Isle of Inishmore, Oscar Wilde a'r fferi gyflyn Jonathan Swift (neu Dublin Swift).