Iceni

Oddi ar Wicipedia
Llwythau Celtaidd De Lloegr

Llwyth Celtaidd yn byw yn ne Lloegr oedd yr Iceni, weithiau Eceni. Roeddynt yn byw yn yr ardal sy'n awr yn Norfolk. Efallai fod y Cenimagni, a ildiodd i Iŵl Cesar yn 54 CC yn gangen o'r Iceni.

Ymddengys i'r Iceni ildio i Rufain heb lawer o drafferth. Fodd bynnag, pan fu farw eu brenin Prasutagas, yn 61, dechreuodd y procurator Rhufeinig Catus anrheithio yr Iceni a'u tiroedd. Cipiodd Buddug (Boudica), gwraig Prasutagus, a'i ddwy ferch ifanc a'u fflangellu yn gyhoeddus ac yna eu treisio. Mewn canlyniad cododd yr Iceni mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Dan arweiniad Buddug, gorchfygodd yr Iceni y nawfed lleng, Legio IX Hispana. Aethant yn eu blaenau i gipio Verulamium (St Albans), y brifddinas Rufeinig ar y pryd Camelodunum (Colchester), ynghyd â porthladd Londinium (Llundain).

Brysiodd y rhaglaw Suetonius Paulinus a'i fyddin yn ôl o Fôn. Roedd ganddo fyddin o tua deng mil o wŷr: Legio XIV Gemina, rhan o Legio XX Valeria Victrix a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger High Cross ar Stryd Watling a bu brwydr enfawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran eu nifer roedd y llengwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.