Hywel Teifi Edwards

Oddi ar Wicipedia
Hywel Teifi Edwards
Ganwyd15 Hydref 1934 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 2010 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantHuw Edwards Edit this on Wikidata

Beirniad llenyddol a hanesydd diwylliannol oedd Hywel Teifi Edwards (15 Hydref 19344 Ionawr 2010). Roedd yn arbennigwr ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd ei fagu yn Aberarth, Ceredigion, ac aeth i Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Garw, lle y cyfarfu a'i wraig Aerona, cyn ymuno ag Adran Addysg Oedolion Coleg Prifysgol Abertawe fel tiwtor llenyddiaeth Gymraeg. Daeth yn athro cadeiriol a Phennaeth Adran Gymraeg y coleg cyn iddo fe ymddeol.

Ei arbenigedd oedd hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn enwedig hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg. Safodd fel ymgeisydd seneddol dros etholaeth Llanelli yn 1983 a thros etholaeth Caerfyrddin yn 1987. Roedd yn dad i'r newyddiadurwr Huw Edwards. Bu farw ar 4 Ionawr 2010 yn Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Llanelli ar ôl cyfnod byr o salwch.[1]

Cofiant[golygu | golygu cod]

Enillodd Tudur Hallam gadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010 am ei awdl yn cofio am Hywel Teifi.

Lansiwyd Academi Hywel Teifi fel rhan o Brifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hywel Teifi Edwards wedi marw. Gwefan Newyddion y BBC. 04-01-10. Adalwyd ar 05-10-10