Hugh Hughes (Cadfan)

Oddi ar Wicipedia
Hugh Hughes
Ganwyd20 Awst 1824 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mawrth 1898 Edit this on Wikidata
Dyffryn Camwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethynad heddwch, gwaith y saer Edit this on Wikidata

Un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia oedd Hugh Hughes ("Cadfan" neu "Cadfan Gwynedd", 20 Awst 18247 Mawrth 1898).

Ganed Hugh Hughes ar Ynys Môn, yr hynaf o 12 o blant. Roedd yn saer coed wrth ei alwedigaeth, a phan oedd yn gweithio yng Nghaernarfon yn y 1850au dechreuodd ymgyrchu dros greu Gwladfa Gymreig. Symudodd i Lerpwl yn 1857, a daeth yn un o arweinwyr y mudiad gwladfaol yno. Yn 1861, traddododd ddarlith a gyhoeddwyd fel Llawlyfr y Wladfa Gymreig.

Teithiodd ef, ei wraig Elizabeth a nifer o blant i Batagonia gyda'r fintai gyntaf ar y Mimosa yn 1865, a dywedir mai ef oedd y cyntaf o deithwyr y Mimosa i roi ei droed ar ddaear Patagonia. Bu'n dal nifer o swyddi megis ustus heddwch yno, a phan fu farw cyhoeddodd Rhaglaw Tiriogaeth Genedlaethol Chubut bod dydd ei angladd i fod yn ddiwrnod o alar trwy'r dalaith.