Homo ergaster

Oddi ar Wicipedia
Homo ergaster
Amrediad amseryddol: 1.9–1.3 Miliwn o fl. CP
Pleistosen Cynnar
Penglog KNM-ER 3733, darganfyddwr: Bernard Ngeneo, 1975. (Cenia)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. ergaster
Enw deuenwol
Homo ergaster
Colin Groves a Vratislav Mazák, 1975

Math o rywogaeth o'r genws Homo yw Homo ergaster (Hen Roeg: ἐργαστήρ "dyn gweithiol") neu Homo erectus Affricanaidd sydd wedi dod i ben. Arferai fyw yn nwyrain a de Affrica yn ystod yr epoc Pleistosen: rhwng 1.9-1.4 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[1] Pan holltwyd llinach y Tsimpansî, daeth homininau newydd i fodolaeth: Homo ergaster a Homo erectus. Yn dilyn darganfyddiadau newydd yn Dmanisi, yng ngwlad Georgia yn 2015, ceir carfan gref o Paleoanthropolegwyr sy'n credu na ddylai Homo ergaster fod ar wahân i h. erectus, ond yn hytrach mai'r un rhywogaeth ydynt mewn gwirionedd. Cafwyd nifer o ffosiliau a dadogir i'r rhywogaeth hon, a'r mwyaf nodedig yw'r ysgerbwd hwnnw a elwir yn "Fachgen Turkana" a ddarganfuwyd ger Llyn Turkana, Cenia sydd rhwng 1.5 a 1.6 CP. Cafwyd ffosiliau hefyd yn Tansanïa, Ethiopia, Cenia, a De Affrica.

Bu H. habilis a H. ergaster yn cyd-fyw yn Affrica am bron i hanner miliwn o flynyddoedd, ac mae'n ymddangos (yn 2015) i'r ddau darddu o'r un hynafiad.

Bathwyd y cyfenw ergaster ("gweithiol") yn 1975 gan Groves a Mazák oherwydd gallu H. ergaster i weithio offer llaw, am y tro cyntaf; dyma ddechrau'r hyn a elwir yn "dechnoleg Acheulean".

Dyn wrth ei waith[golygu | golygu cod]

Defnyddiai H. ergaster offer llaw llawer mwy clyfar ac amrywiol na'i ragflaenydd H. habilis. Etifeddodd yr hen dechnoleg ("Oldowan") ac aeth ati i ddatblygu'r fwyell.[2] Dechreuodd H. ergaster greu'r bwyelli hyn 200,000 o flynyddoedd wedi iddo wahanu oddi wrth llinell y Tsimpansî. Mae'r dystiolaeth yn dechrau dangos mai ef hefyd oedd yr anifail cyntaf i gynnau a defnyddio tân i'w bwrpas ei hun, fel pob hominin a ddaeth ar ei ôl.[3]

Cynefin[golygu | golygu cod]

Arhosodd H. ergaster yn Affrica am 500 mil o flynyddoedd ac yna ni cheir tystiolaeth ohono yno. Ni wyddys pan iddo 'ddiflannu' o Affrica 1.4 miliwn CP. Y rhywogaeth H. heidelbergensis sydd i'w weld yno ar ôl hynny.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Homo ergaster - Homo ergaster ("working man") is an extinct hominid species (or subspecies, according to some authorities) which lived throughout eastern and southern Africa between 1.9 to 1.4 million years ago with the advent of the lower Pleistocene and the cooling of the global climate.". ScienceDaily. Cyrchwyd 29 Hydref 2015.
  2. Beck, Roger B.; Black, Linda; Krieger, Larry S.; Naylor, Phillip C.; Shabaka, Dahia Ibo (1999). World History: Patterns of Interaction. Evanston, IL: McDougal Littell. ISBN 0-395-87274-X.CS1 maint: uses authors parameter (link)
  3. Goren-Inbar, Naama, et al.; Alperson, N; Kislev, ME; Simchoni, O; Melamed, Y; Ben-Nun, A; Werker, E (30 Ebrill 2004). "Evidence of Hominin Control of Fire at Gesher Benot Ya 'aqov, Israel". Science 304 (5671): 725–727. Bibcode 2004Sci...304..725G. doi:10.1126/science.1095443. PMID 15118160. https://archive.org/details/sim_science_2004-04-30_304_5671/page/725.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: