Hiroshima

Oddi ar Wicipedia
Hiroshima
Mathdinasoedd dynodedig Japan, prefectural capital of Japan, dinas â phorthladd, dinas fawr, dinas Japan Edit this on Wikidata
PrifddinasNaka-ku Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,198,021 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1889 Edit this on Wikidata
Anthemmunicipal anthem of Hiroshima Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKazumi Matsui Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSassenhirofuku, 100 municipalities with water, Hiroshima metropolitan area Edit this on Wikidata
SirHiroshima Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Arwynebedd905.01 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Ōta, Hiroshima Bay, Seto Inland Sea Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaKure, Higashihiroshima, Akitakata, Hatsukaichi, Kumano, Kaita, Fuchū, Saka, Kitahiroshima, Akiōta Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.38525°N 132.45531°E Edit this on Wikidata
Cod post730-8586 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholQ11484650 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Hiroshima Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKazumi Matsui Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganMōri Terumoto Edit this on Wikidata

Prif ddinas Talaith Hiroshima yn Japan yw Hiroshima, a dinas fwyaf rhanbarth Chūgoku yng ngorllewin Honshū, ynys fwyaf Japan. Hiroshima oedd y ddinas gyntaf erioed i brofi arfau niwclear pan ollyngwyd bom arni gan yr Unol Daleithiau ar y 6ed o Awst, 1945 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]

Cafodd Hiroshima statws bwrdeistrefol ar y 1af o Ebrill, 1889. Maer presennol y ddinas yw Kazumi Matsui a ddechreuodd ar ei swydd yn 2011.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Hiroshima ar arfordir mewnforol Môr Seto ym 1589 gan Mori Terumoto, a wnaeth y ddinas yn brifddinas wedi iddo adael Castell Koriyama.[2][3] Adeiladwyd Castell Hiroshima'n gyflym iawn, a symudodd Terumoto yno ym 1593. Collodd Terumoto Frwydr Sekigahara. Amddifadodd buddugwr y frwydr honno, Tokugawa Ieyasu, Mori Terumoto o'i eiddo, gan gynnwys Hiroshima, gan roi talaith Aki i Masanori Fukushima, arglwydd ffiwdal a oedd wedi cefnogi Tokugawa.[4] Trosglwyddwyd y castell i Asano Nagaakira ym 1619, a phenodwyd Asano yn arglwydd yr ardal hon. O dan reolaeth Asano, ffynnodd, datblygodd ac ehangodd y ddinas, a phrin oedd y gwrthdaro a'r anghydweld milwrol. Parhaodd llinach Asano i reoli tan Adfywiad Meiji yn y 19g.

Cyfnod modern[golygu | golygu cod]

Bu Hiroshima'n brifddinas ardal Hiroshima yn ystod cyfnod Edo. Ar ôl i'r han gael ei ddiddymu ym 1871, daeth y ddinas yn brifddinas Talaith Hiroshima. Daeth Hiroshima'n ardal ddinesig fawr yn ystod cyfnod Meiji wrth i economi Japan symud o'r diwydiant amaethyddol i'r diwydiannau trymach. Adeiladwyd Harbwr Ujina yn ystod y 1880au, a alluogodd Hiroshima i fod yn borthladd pwysig.

Ymestynnwyd Rheilffordd Sanyo i Hiroshima ym 1894, ac adeiladwyd rheilffordd o'r brif orsaf i'r harbwr er mwyn symud offer milwrol yn ystod y Rhyfel Sino-Japan Cyntaf.[5] Sefydlwyd ffatrïoedd diwydiannol newydd, gan gynnwys melinau gwlân, yn Hiroshima ar ddiwedd y 1880au.[6] Gwelwyd diwydiannu pellach yn Hiroshima o ganlyniad i'r Rhyfel rhwng Rwsia a Japan ym 1904, lle'r oedd angen datblygu a chynhyrchu offer milwrol. Adeiladwyd Neuadd Arddangos Masnach Talaith Hiroshima ym 1915 fel canolfan i fasnachu ac arddangos nwyddau newydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Neuadd Arddangos Cynnyrch Talaith Hiroshima, ac yn ddiweddarach eto i Neuadd Hyrwyddo Diwydiannau Talaith Hiroshima.[7]

Yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lleolwyd pencadlys yr Ail Fyddin a Byddin Ranbarthol Chugoku yn Hiroshima, tra bod Pencadlys Morol y Fyddin wedi ei leoli ym mhorthladd Ujina. Roedd gan y ddinas storfeydd mawrion o adnoddau milwrol hefyd, ac roedd yn ganolfan allweddol ar gyfer allforio.

Achosodd bomio Tokyo a dinasoedd eraill yn Japan ddinistr difrifol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a lladdwyd dros 200,000, gyda'r mwyafrif llethol ohonynyt yn drigolion cyffredin. Er enghraifft, dinistrwyd ardal ddinesig Toyama, lle trigai 128,000 o bobl, bron yn llwyr, a lladdwyd tua 90,000 o bobl gan fomiau yn Tokyo.[8][9]

Y bom atomig[golygu | golygu cod]

Yn fuan ar ôl i’r rhyfel ddechrau ym mis Hydref 1939 cafodd yr Arlywydd Roosevelt o UDA lythyr gan y ffisegwr Albert Einstein. Roedd yn sôn am y posibilrwydd o greu bom a fyddai’n fwy nerthol nag unrhyw beth a welwyd o’r blaen drwy ddefnyddio pŵer niwclear. Roedden nhw’n ofni bod gwyddonwyr yr Almaen ar fin creu ‘bom atomig’ a fyddai’n arwain at ganlyniadau trychinebus. Perswadiwyd Roosevelt i fwrw ymlaen â’r cynllun ac aeth ati i sefydlu menter ar y cyd â Phrydain o’r enw Prosiect Manhattan. Arweiniwyd y prosiect gan UDA gyda chefnogaeth Prydain a Chanada. Fe wnaeth gwyddonwyr a oedd yn cael eu hadnabod fel y ‘genhadaeth Brydeinig’ gyfraniad pwysig at y prosiect.

Enola Gay ac aelodau'r criw cyn yr ymosodiad ar Hiroshima

Ar 20 Gorffennaf 1945 profwyd y bom atomig cyntaf yn anialwch Alamogordo ym Mécsico Newydd. Penderfynodd y Cynghreiriaid orchymyn ollwng dau fom wraniwm ar ddau darged yn Japan, sef Hiroshima a Nagasaki. Gollyngwyd yr un cyntaf ar Hiroshima, sef ‘Little Boy’, ddydd Llun 6 Awst, 1945 am 8.15 y bore gan griw y bomiwr B-29 Americanaidd, yr Enola Gay, er mwyn gorfodi Japan i ildio. Roedd y bom yn arf thermo-niwclear a oedd yn pwyso ychydig dros 2,400 pwys ond roedd y grym ffrwydrol yn gyfystyr â thanio 1.2 miliwn tunnell o TNT. Mae ceisio amcangyfrif faint o bobl a laddwyd yn Hiroshima wedi bod yn anodd ond un ffigwr yw 150,000 yn Hiroshima. Ynghyd â Nagasaki, dyma’r unig arf niwclear sydd wedi ei ddefnyddio mewn gwrthdaro milwrol erioed.

Parhaodd niferoedd uchel o bobl i farw am fisoedd ar ôl hynny oherwydd effeithiau’r bom. Bu farw llawer oherwydd effeithiau’r llosgiadau a salwch ymbelydredd. Dinistriwyd tua 69% o adeiladau’r ddinas yn gyfan gwbl gyda 6.6% wedi eu difrodi’n ddifrifol.[9] Ailadeiladwyd y ddinas ar ôl y rhyfel a sefydlwyd Cofeb Heddwch Hiroshima.

Penderfynwyd defnyddio bom niwclear gan yr Unol Daleithiau am nifer o resymau. Ym mlynyddoedd olaf y rhyfel, sylweddolodd UDA y byddai cost ariannol drud wrth geisio gorchfygu Japan ar ei phrif dir. Byddai llai o filwyr Americanaidd, sifiliaid a milwyr Japaneaidd yn cael eu lladd drwy ollwng bom niwclear yn hytrach na thrwy oresgyniad o’r awyr ac ar y tir. Roedd defnyddio bom atomig yn ffordd o orfodi Japan i ildio’n gyflym. Roedd y Cynghreiriaid wedi galw am ildiad diamod gan luoedd milwrol Japan yn Natganiad Potsdam ar 26 Gorffennaf 1945. Anwybyddodd Japan yr wltimatwm ac felly parhaodd y rhyfel. Gyda’r rhyfel yn Ewrop wedi dod i ben pan ildiodd yr Almaen ar Mai 8, 1945 (Diwrnod VE) trodd y Cynghreiriaid felly eu sylw at y rhyfel yn y Cefnfor Tawel. Ar Awst 15 1945 ildiodd Japan i’r Cynghreiriaid – chwe diwrnod wedi i’r Undeb Sofietaidd ddatgan rhyfel yn ei herbyn ac ar ôl i'r bom ddisgyn ar Nagasaki.

Cyfyngwyd gwaith ymchwil am effaith yr ymosodiad a sensorwyd gwybodaeth tan arwyddwyd Cytundeb Heddwch San Francisco ym 1951, pan ddychwelwyd rheolaeth o'r ardal yn ôl i Japan.[10]

Ysgrifennwyd llawer am Hiroshima mewn adroddiadau newyddion, nofelau a diwylliant poblogaidd yn ystod y blynyddoedd ar ôl y bomio.

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Poblogaeth y ddinas yw 1,159,391 (2007) er yr amcangyfrifwyd bod gan ardal fetropolitanaidd y ddinas boblogaeth o 2,043,788 yn 2000. Arwynebedd y ddinas yw 905.08 km², gyda dwysedd poblogaeth o 1275.4 unigolyn i bob km².[11]

Roedd poblogaeth y ddinas yn 143,000 tua 1910. Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd poblogaeth Hiroshima wedi tyfu i 360,000 cyn cyrraedd uchafswm o 419,182 ym 1942. O ganlyniad i ollwng y bom atomig ym 1945, lleihaodd y boblogaeth i 137,197. Erbyn 1955, roedd poblogaeth y ddinas wedi dychwelyd i'r un lefel ag yr oedd cyn y rhyfel.[12][13]

Wardiau[golygu | golygu cod]

Mae 8 ward (ku) yn Hiroshima:

Ku Poblogaeth Arwynebedd (km²) Dwysedd poblogaeth
(per km²)
Aki-ku 78,176 94.01 832
Asakita-ku 156,368 353.35 443
Asaminami-ku 220,351 117.19 1,880
Higashi-ku 122,045 39.38 3,099
Minami-ku 138,138 26.09 5,295
Naka-ku 125,208 15.34 8,162
Nishi-ku 184,881 35.67 5,183
Saeki-ku 135,789 223.98 606
Poblogaeth ar ôl 31 Hydref 2006

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hakim, Joy (1995). A History of US: Book 9: War, Peace, and All that Jazz. Efrog Newydd: Oxford University Press.
  2. "The Origin of Hiroshima". Hiroshima Peace Culture Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-30. Cyrchwyd 2007-08-17.
  3. Scott O'Bryan (2009). "Hiroshima: History, City, Event". About Japan: A Teacher's Resource. Cyrchwyd 2010-03-14.
  4. Kosaikai, Yoshiteru (2007). "History of Hiroshima". Hiroshima Peace Reader. Hiroshima Peace Culture Foundation.
  5. Dun (US Legation in Tokyo) to Gresham, Chwefror 4, 1895, in Foreign relations of United States, 1894, Appendix I, p. 97
  6. Jacobs, Norman (1958). The Origin of Modern Capitalism and Eastern Asia. Hong Kong University. t. 51.
  7. Sanko (1998). Hiroshima Peace Memorial (Genbaku Dome). The City of Hiroshima and the Hiroshima Peace Culture Foundation.
  8. Pape, Robert (1996). Bombing to Win: Airpower and Coercion in War. Cornell University Press. t. 129. ISBN 978-0-8014-8311-0.
  9. 9.0 9.1 "Frequently Asked Questions – Radiation Effects Research Foundation". Rerf.or.jp. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-19. Cyrchwyd 2011-07-29.
  10. Ishikawa and Swain (1981), p. 5
  11. 広島市勢要覧 (PDF). Government of Hiroshima City. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-06-18.
  12. "2006 Statistical Profile". The City of Hiroshima. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-06. Cyrchwyd 2007-08-14.
  13. de Rham-Azimi, Nassrine; Fuller, Matt; Nakayama, Hiroko (2003). Post-conflict Reconstruction in Japan, Republic of Korea, Vietnam, Cambodia, East Timor. United Nations Publications. t. 69.