Hil

Oddi ar Wicipedia

Dosbarth o fodau dynol yw hil sy'n grwpio poblogaethau yn ôl ffactorau megis nodweddion etifeddadwy neu'n grwpiau daearyddol. Mae nodweddion megis pryd a gwedd y grŵp, diwylliant y grŵp, ethnigrwydd, a statws economaidd-gymdeithasol y grŵp hefyd yn cael eu hystyried wrth eu dosbarthu.

Canwyd awdl gan y Prifardd Alan Llwyd ar dair hil: Yr Hil Wen (Cymry), Yr Hil Werdd (Gwyddelod) a'r Hil Goch (brodorion Americanaidd) yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Rhuthun yn 1973.

Syniadau hanesyddol[golygu | golygu cod]

Yng nghelf yr Hen Aifft, dangosir yr Eifftiaid hynafol yn groengoch, y gelynion i'r dwyrain yn groenfelyn, y goresgynwyr o'r gogledd yn groenwyn, a'r bobloedd i'r de yn groenddu. Dyma felly dystiolaeth yr oeddynt yn cydnabod categorïau cyffredinol o'r ddynolryw ar sail lliw, ond nid o reidrwydd unrhyw ystyr fanylach o ddosbarthiad hiliol. Ymddengys amrywiaeth o gysyniadaeth hil am wahanol bobloedd yr Henfyd yng ngwaith awduron Hen Roeg. Defnyddiodd Herodotus y gair ethnos (lluosog: ethnea) i ddisgrifio pob math o grwpiau dynol, boed yn grŵpiau ethnig, cymdeithasau gwleidyddol, llwythau, neu ffurfiau cynnar ar genhedloedd, hynny yw cymunedau eang sydd yn rhannu carennydd, iaith, crefydd, a diwylliant cyffredin. Tybiodd Polybius bod amodau hinsawdd a daearyddiaeth wedi yn esbonio'r gwahaniaethau corfforol rhwng gwahanol grwpiau o fodau dynol.

Yn ôl Y Dangosai Daearyddawl (1823) gan Robert Roberts, gellir dosbarthu lliwiau croen y ddynolryw fel y ganlyn: "Du. Trigolion canol-barthau Affrica, Guni newydd ac Holland Newydd. Gwineuddu. Y Mooriaid yng ngogledd-barth Affrica, ac yr Hottentottiaid yn ei rhànau deheuol. Gwineu. Trigolion yr India ddwyreiniol. Coch. Trigolion America, Coch-ddu. Trigolion parthau deheuol Ewrop, megys y Siciliaid, Yspaeniaid, Twrciaid a Groegiaid ; hefyd y Laplandiaid yn y gogledd, a Gwyn, holl ganol-barthau Ewrop, sef Prydain, Almaen, &c. ac y Georgiaid yn Asia, a thrigolion ynysoedd Mor mawr y De."[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robert Roberts, Y Dangosai Daearyddawl (Llundain: Apollo Press, 1823), t. 10.
Chwiliwch am hil
yn Wiciadur.