Hanes Llydaw

Oddi ar Wicipedia

Mae'r cofnodion cyntaf am hanes Llydaw yn dod o awduron clasurol megis Strabo a Poseidonius. Cyfeirir at nifer o lwythau Celtaidd yn y diriogaeth sy'n awr yn Llydaw, y Veneti, Armoricani, Osismii, Namnetes a'r Coriosolites.

Yn ôl haneswyr fel Gildas a Nennius, ymfudodd llawer o Frythoniaid o Brydain i Lydaw ar ôl ymadawiad y Rhufeinwyr yn 410 OC.. Fodd bynnag mae darganfyddiadau archaeolegol yn Llydaw yn awgrymu fod yr ymfudo yma yn perthyn i gyfnod cynharach, pan oedd Prydain yn parhau i fod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Y mewnfudo yma fu'n gyfrifol am greu'r iaith Lydaweg, sy'n perthyn yn agos i'r iaith Gymraeg ac yn arbennig i Gernyweg, ond yn llawer llai agos i'r hen iaith Aleg. Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf yn Llydaweg, traethawd ar blanhigion, yn dyddio i tua 590.

Wedi marwolaeth Siarlymaen yn 814, cyhoeddodd Morvan Lez-Breizh ei hun yn frenin Llydaw. Lladdwyd ef yn 818 mewn brwydr yn erbyn Louis Dduwiol, olynydd Siarlymaen. Yn 845 crewyd teyrnas unedig yn Llydaw gan Nevenoe (Ffrangeg: Nominoë), Dug Llydaw, pan orchfygodd Siarl Foel, brenin Ffrainc ym Mrwydr Ballon yn nwyrain Llydaw. Grorchfygwyd Siarl Foel eto gan y Llydawyr dan Erispoe ym Mrwydr Jengland yn 851, a bu raid i Siarl gydnabod annibyniaeth Llydaw. Roedd gan Llydaw ei brenhinoedd a'r breninesau ei hun.

Colli ei hannibyniaeth[golygu | golygu cod]

Yn Rhyfel Olyniaeth Lydaw, rhwng 1341 a 1364, fe wrthdarodd cynghreiriaid Lloegr yn erbyn cynghreiriaid Ffrainc. Yn 1488 gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r Swistir a'r Eidal. Gorfodwyd Dug Llydaw, Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas ei ferch, Anna. Y Dduges Anna oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol; gorfodwyd hi i briodi Louis XII, brenin Ffrainc, a phan fu hi farw ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn 1532. Roedd gan Llydaw rywfaint o ymreolaeth o fewn Ffrainc tan 1789. Gwrthryfel yn erbyn y Chwyldro Ffrengig oedd y Chouanted, a gefnogwyd gan y Saeson.

Yr Ugeinfed Ganrif hyd y presennol[golygu | golygu cod]

Datblygodd y mudiad cenedlaethol Llydewig modern tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g. Pan orchfygwyd Ffrainc gan Yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, bu hollt yn y mudiad cenedlaethol. Roedd rhai cenedlaetholwyr Llydewig yn amlwg yn y gwrthwynebiad arfog i'r Almaenwyr, tra dewisodd eraill megis Roparz Hemon gydweithio gyda'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill annibyniaeth i Lydaw. Yn Rhagfyr 1943 llofruddiwyd yr Abbé Perrot, cenedlaetholwr Llydewig amlwg, gan aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, gan haeru ei fod yn cydweithio a'r Almaenwyr. Bu raid i eraill, megis Roparz Hemon, ffoi i Gymru ac Iwerddon ar ddiwedd y rhyfel, a bu adwaith cryf ar ran llywodraeth Ffrainc yn erbyn yr iaith a'r diwylliant Llydewig.

Pan rannwyd Ffrainc yn ranbarthau gweinyddol, nid oedd rhanbarth Bretagne ond yn cynnwys pedwar allan o'r pum departement oedd yn draddodiadol yn rhan o Lydaw. Ni chynhwyswyd Loire-Atlantique, sy'n cynnwys Nantes, un o ddwy brifddinas draddodiadol Llydaw. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers 1945; mewn llawer o ardaloedd lle siaredid yr iaith, magwyd plant a aned ers y cyfnod yma yn uniaith Ffrangeg. Ers y 1970au bu cynnydd mewn diddordeb yn iaith a diwylliant Llydaw, yn arbennig mewn cerddoriaeth, lle daeth Alan Stivell yn adnabyddus. Mae mudiad Diwan wedi sefydlu ysgolion Llydaweg i geisio achub yr iaith.

Ar 16 Mawrth 1978, drylliwyd y llong Amoco Cadiz gerllaw porthladd bychan Portsall yn Ploudalmézeau. Collwyd rhan helaeth o'i llwyth o olew i'r môr, gan greu difrod mawr ar draethau gogleddol Llydaw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]


Ty Celtaidd Hanes y Gwledydd Celtaidd Sbiral triphlyg

Hanes yr Alban | Hanes Cernyw | Hanes Cymru | Hanes Iwerddon | Hanes Llydaw | Hanes Manaw

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid