Gwynt

Oddi ar Wicipedia
Effaith gwynt ar dyfiant coeden
Pieter Kluyver (1816–1900)

Nwyon yn symud drwy'r atmosffer ydy gwynt, a hynny ar raddfa anferthol. Mae meteorolegwyr yn diffinio gwynt fel aer sy'n symud yn llorweddol a gelwir symudiad aer fertigol yn gerrynt. Ceir hefyd wynt solar, sef symudiad gronynnau wedi'u gwefru sy'n dod allan o haul. Gellir astudio yr hyn sy'n achosi gwyntoedd yn ogystal â mesur eu cyfeiriad, eu cryfder ayb. Gelwir chwa fechan o wynt yn 'awel' a gall gwyntoedd uchel mewn trowyntoedd godi i hyd at 200 mya sy'n ddigon i ddifa adeiladau cyfan.

Mae gwyntoedd y byd wedi cael effaith ar ddatblygiad dyn a'i symudiad, a'i ymlediad dros wyneb y Ddaear. Mae gallu dyn i deithio ers milenia wedi dibynnu ar y gwynt i lenwi hwyliau cychod a llongau hwylio gan ei yrru i ynysoedd a chyfandiroedd newydd. Yn y ddau gan mlynedd diwethaf, harnesodd y gwyddonydd y gwynt gan ei ddefnyddio fel ffynhonnell trydan a phwer i wneud gwaith mecanyddol.

Achos gwynt[golygu | golygu cod]

Achosir gwynt gan wahanol wasgeddau aer mewn ardaloedd gwahanol. Achosir hyn gan amrywiad yng nghryfder pelydredd'r haul dros wahanol ardaloedd oherwydd ffactorau fel gorchudd cwmwl, lleithder aer, agwedd a lledred. Y ddau brif achos o gylchdro atmosfferig ar raddfa fawr ydyw'r gwahaniaeth enfawr yn nhymeredd y cyhydedd a'r pegynau ynghyd â chylchdro'r blaned (yr effaith Coriolis). Mae gwyntoedd lleol ar yr arfordir yn diffinio'r gwynt lleol, a gall ffurfwedd mynyddoedd a dyffrynoedd hefyd ddifinio'r patrwm lleol.

Dywediadau Cymraeg[golygu | golygu cod]

  • gwynt adwyth - rhyw haint ar y ffordd (1822)[1]
  • gwynt i'r bôn braich - rhoi nerth i berson i wneud ei waith
  • gwynt y bwch - arogl ofnadwy / ogla cas bwch gafr; neu'n ffigyrol 'clywed gwynt y bwch' - I smell a rat!
  • gwynt byr - heb lawer o anadl
  • gwynt carthen - yr awel a geir o ysgwyd blanced. Yn ffigyrol / negyddol am berson sy'n siarad yn neis-neis
  • gwynt i'r gesail - gwynt i'r bôn braich (Dyfed) 
  • gwynt cilddor - draught, hy gwynt pan fo drws yn gil agored, neu fwlch sy'n caniatau i wynt ddod mewn i'r t
  • gwynt coch Amwythig - gwynt o'r Dwyrain (Sir Drefaldwyn)
  • gwynt y creigiau - gwynt o'r gogledd-orllewin (o gyfeiriad yr Wyddfa), gwynt oer; (Sir Drefaldwyn)
  • gwynt croes - yn ffigyrol: treialon bywyd yn profi person
  • gwynt y cythral - gwynt croes (13g)
  • gwynt y de - 14g (Dafydd ap Gwilym)
  • gwynt y dwyrain - 1588
  • gwynt ffalm (ffalwn) - gwynt o'r gorllewin (15g)
  • gwynt ffroen yr ych - gwynt y dwyrain - ar lafar gan borthmyn y de
  • gwynt (y) gogledd - 13g
  • gwynt (y) gorllewin - 13g
  • gwynt hedeg - gwynt sy'n hedfan (1798)
  • gwynt masnachol neu wyntoedd trafnidiol - trade winds (1833)
  • gwynt o’r môr: sea-breeze
  • gwynt Senghennydd - gwynt o'r dwyrain
  • gwynt teg ar ôl person - twll ei din (good riddance)
  • gwynt traed y meirw - gwynt y dwyrain (mae hyn yn cyfeirio at yr arferiad o gladdupobl gyda'u traed yn wynebu'r dwyrain)
  • a'i wynt yn ei ddwrn / a’i wynt yn ei wddf / allan o wynt - allan o wynt ar ôl rhedeg (Twm o'r Nant 1808)
  • codi'n wynt - y gwynt yn cryfhau
  • dan ei wynt / dan ei gwynt - yn dawel neu'n sibrwd
  • yn y gwynt - ar y gweill; 'mae rhyw newid yn y gwynt...' (Ellis Wynne; 1703)
  • byw ar y gwynt - heb lawer o fwyd
  • mynd a'r gwynt o hwyliau rhywun - bod yn negyddol / sarhaus o berson

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC); adalwyd 12 Ionawr 2016
Chwiliwch am gwynt
yn Wiciadur.