Gwyddfid

Oddi ar Wicipedia
Gwyddfid
Llaeth y Gaseg
1. Cangen yn blodeuo, 2. Cangen mewn ffrwyth, 3. Torriad drwy flodyn, 4. Ffrwyth wedi'i dorri.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Asterids
Urdd: Dipsacales
Teulu: Caprifoliaceae
Genws: Lonicera
L.

Prysgwydden gordeddog yn nheulu'r Caprifoliaceae yw'r gwyddfid neu laeth y gaseg (enw unigol ac enw lluosog) sy'n gynhenid i hemisffêr y gogledd. Mae'n blanhigyn dringol ac ymnyddol o deulu’r Caprifoliaceæ ac mae'n tyfu mewn llwyni a gwrychoedd.[1] Melyn-pinc ydy lliw'r blodau sy'n eitha persawrus ac ar ffurf utgyrn; mae'r aeron a dyf yn yr hydref o liw coch. Mae tua 180 o rywogaethau gwahanol ac mae 20 ohonynt yn gynhenid i Ewrop. Adwaenir y gwyddfid hefyd fel llaeth y gaseg, ymysg nifer o enwau gwahanol. Y math mwyaf cyffredin yw'r Lonicera periclymenum.

Blodau'r gwyddfid ger Heolgerrig, Merthyr Tudful; Medi 2017 (llun gan Morgan Owen).

Mae'r dail mewn parau, yn syml ac yn hirgrwn. Yn ôl y naturiaethwraig Bethan Wyn Jones: Mae arogl y gwyddfid yn drymach ar awel yr hwyr am mai gwyfynod yn bennaf sy'n peillio'r gwyddfid, ac er mwyn denu'r gwyfynod hynny i beillio'r blodau mae'r gwyddfid yn rhyddhau perarogl.[2]

Cyfeirir at "laeth-y-gaseg" gan Dafydd Rowlands yn ei gerdd Dangosaf iti Lendid.[3]

Gerddi[golygu | golygu cod]

Mae'r gwyddfid yn blanhigyn cyffredin mewn gerddi - yn bennaf gan eu bod yn gorchuddio hen waliau ac oherwydd lliw ac arogl y blodau. Mae'r mathau sy'n dringo'n hoffi gwreiddio yn y cysgod. Gallant ordyfu, gan dyfu'n wyllt, os nad ydynt yn cael eu tocio.[4]

Blodau

Enwau[golygu | golygu cod]

Yn ddiweddar defnyddiwyd yr enw fel enw ar ferch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ngeiriadur Prifysgol Cymru
  2. Teitl: Arogleuon I Ddenu'r Cler; Gwefan y Daily Post;[dolen marw] adalwyd 30 Mehefin 2014.
  3. Gwefan Bitsesixe; Archifwyd 2014-07-17 yn y Peiriant Wayback. BBC; adalwyd 30 Mehefin 2014.
  4. RHS A-Z encyclopedia of garden plants. United Kingdom: Dorling Kindersley. 2008. t. 1136. ISBN 1405332964.