Gwobrau Rhyngwladol Emmy

Oddi ar Wicipedia
Delwedd:Gb emmy.jpg
Yr actor Greg Berlanti yng Ngwobrau Rhyngwladol Emmy 2018

Gwobr sy'n cael ei rhoi gan Academi Ryngwladol y Celfyddydau a'r Gwyddorau Teledu i raglenni teledu sydd wedi'u cynhyrchu a'u darlledu'n wreiddiol y tu allan i'r Unol Daleithiau yw Gwobrau Rhyngwladol Emmy. Cyflwynir y rhan fwyaf o'r gwobrau yn y brif ddefod wobrwyo, sef Gala Gwobrau Rhyngwladol Emmy a gynhelir fel arfer ym mis Tachwedd yng Ngwesty'r Hilton, Dinas Efrog Newydd. Daw dros 1,200 o bobl o'r diwydiant i ddathlu rhagoriaeth ym myd teledu.


Categorïau[golygu | golygu cod]

Mae gwobrau Emmy yn cael eu rhoi mewn un categori ar bymtheg ar hyn o bryd[1]:

Gwobrau Rhaglenni
  • Rhaglenni Celfyddydol
  • Perfformiad Gorau gan Actores
  • Perfformiad Gorau gan Actor
  • Comedi
  • Dogfen
  • Cyfres Ddrama
  • Rhaglen Oriau Brig mewn Iaith Heblaw Saesneg
  • Adloniant Di-sgript
  • Cyfres Rhaglenni Byrion
  • Telenofela
  • Ffilm Deledu/Cyfres Fer
Gwobrau Plant
  • Animeiddio
  • Ffeithiol ac Adloniant
  • Ffilmio Byw
Gwobrau Newyddion
  • Materion Cyfoes
  • Newyddion


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]