Gwlân

Oddi ar Wicipedia
Gwlân

Ffibr a wneir o flew cyrliog defaid, geifr, ac aelodau eraill o deulu'r Caprinae yw gwlân.

Hanes[golygu | golygu cod]

Hyd at yr 20g, y diwydiant gwlân oedd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.[1] Yn yr Oesoedd Canol, roedd y diwydiant yn hynod o bwysig yn Sir Benfro, lle roedd y trigolion yn nyddu edafedd ac yn gweu brethynnau yn eu cartrefi, iddynt hwy eu hunain, gan werthu unrhyw gynnyrch oedd ganddynt dros ben mewn ffair. Weithiau arferid allforio'r cynnyrch i Fryste. Yno, roedd y diwydianwyr yn ei ail-allforio i Wasgwyn, Llydaw, Portiwgal a Gwlad yr Iâ, a gwnaed elw mawr. Defnyddid y brethyn ar gyfer (a oedd o ansawdd eithaf gwael) ar gyfer gwaith pob dydd yn hytrach nag i edrych yn dda.

Yn y 16g symudodd canolbwynt y diwydiant o Sir Benfro i Sir Feirionnydd, Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwag Prifysgol Cymru; tud 409; cyhoeddwyd 2008; adalwyd 06 Hydref 2012.
Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am gwlân
yn Wiciadur.