Guarino da Verona

Oddi ar Wicipedia
Guarino da Verona
Ganwyd1374 Edit this on Wikidata
Verona Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 1460, 1460 Edit this on Wikidata
Ferrara Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, athronydd, cyfieithydd, dyneiddiwr, academydd, copïwr Edit this on Wikidata
Swyddhofmeister Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Leonello d'Este, Marquis of Ferrara
  • Prifysgol Ferrara Edit this on Wikidata
PlantBattista Guarino Edit this on Wikidata

Ysgolhaig o Eidalwr oedd Guarino da Verona (137414 Rhagfyr 1460) a oedd yn un o'r dyneiddwyr cyntaf yn y Dadeni Dysg.

Ganwyd yn Verona ac astudiodd yn yr Eidal ac yng Nghaergystennin (1403–08). Dychwelodd i'r Eidal gyda chasgliad o lawysgrifau Groeg, ac addysgodd yr iaith honno yn Fflorens (1410) ac yn Fenis (1414). Cyflawnodd Regulae grammaticales (1418), y gramadeg Lladin cyntaf yn y Dadeni. Wedi iddo weithio'n feistr rhethreg yn Verona, fe'i penodwyd yn diwtor i Leonello, mab Nicolò d’Este, Arglwydd Ferrara, yn 1430. Bu hefyd yn cyfieithu nifer o awduron o'r Roeg, gan gynnwys Strabo a Plutarch. Galwyd ar ei alluoedd ieithyddol yng Nghynor Eglwysig Ferrara-Fflorens (1438–45).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Guarino Veronese. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2019.