Grob G 109

Oddi ar Wicipedia
Yr Awyrlu Brenhinol Grob G109B gleidr modur yn glanio yn RIAT 2008, Lloegr

Mae'r Grob G109 (hefyd: G109A/G109B) yn awyren ysgafn a ddatblygwyd gan Grob Aircraft AG o Mindelheim Mattsies yn yr Almaen. Cafodd ei hedfan gyntaf ym 1980 a'r G109B yn dilyn ym 1984. Mae e'n gleidr-modur dwy sedd a all lansio ei hun gyda pheilot a myfyriwr yn eistedd ochr yn ochr.

Fe'i defnyddir gan y cyhoedd, ond defnyddir hi fel arfer yn y Sgwadronau Gleidio Gwirfoddol (Saesneg: VGS) gan yr Awyrlu Brenhinol i addysgu cadetiaid awyr i hedfan. Defnyddir y 634VGS[1] yn MoD Sain Tathan a'r 636VGS[2] o Faes Awyr Abertawe. Caiff ei alw weithiau'n "Vigilant T1".[3]

Vigilant T1[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd y Vigilant T1 ym 1991, oedd yn cymryd lle'r Slingsby Venture a chafodd ei defnyddio gan y Sgwadronau Gleidio Gwirfoddol ledled y Deyrnas Unedig i gyflwyno Cadetiaid i hedfan a'u dysgu sut i hedfan awyrennau. Mae'r Vigilant yn cael ei defnyddio gan yr Ysgol Hedfan Canolog yn RAF Syerston yn Swydd Nottingham sy'n dysgu hyffordwyr ac archwilwyr safonau ledled gwledydd Prydain.

Manyleb (Vigilant T1)[golygu | golygu cod]

Cockpit
  • Maint: lled 17.4m (57.09), hyd 8.10 m (26.57 ft), uchder 1.7 m (5.58 ft), ardal aden 19.0m²
  • Màs: Pwys uchafswm 908Kg, llwyth 245Kg, tanwydd 100l (72Kg)
  • Modur: GROB 2500, 3400 CyF 95 HP, 12l/awr at 170 km/awr

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]