Grenadwr

Oddi ar Wicipedia
Grenadwr
Enghraifft o'r canlynolmilitary profession, cangen o'r fyddin Edit this on Wikidata
Mathmilwr, troedfilwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Grenadwr yr Hen Warchodlu (Vieille Garde) gan Édouard Detaille (tua 1812)

Troedfilwr elît[1] sy'n taflu grenadau yw grenadwr.[2] Yn hanesyddol cafodd y milwyr talaf eu dewis i daflu grenadau mewn brwydr, gan roi'r hen enw talfilwr iddynt.[3][4] Brwydrodd y grenadwr mewn byddinoedd Ewrop yn yr 17g a'r 18g, yn arbennig mewn gwarchaeau a'r ffosydd.

Ni threfnid y grenadwyr cynharaf, ar ddiwedd yr 16g, mewn unedau arbennig, ond daethant yn fwyfwy pwysig yn oes rhyfela gwarchae. Swyddogaeth y grenadwr Ffrengig oedd arwain yr ymosodiad ar ragfuriau'r gelyn drwy daflu grenadau uwch eu pennau ac yna dwyn cyrch ar yr agorfaoedd.[5] Erbyn canol yr 17g ffurfiwyd cwmnïau arbennig o fewn bataliynau. Derbynodd y grenadwyr hyfforddiant arbenigol, ac roeddynt angen cryfder a dewrder yn wyneb y gelyn. Roedd nifer o ddamweiniau wrth i'r grenadau ffrwydro'n rhy gynnar. Derbynient gyflog uwch na'r troedfilwyr eraill a breintiau arbennig, a gwisgent lifrai crand gan gynnwys y siaco. Cawsant eu harfogi â bwyeill trymion i dorri gwrthgloddiau a rhwystrau eraill,[6] ac fel rheol darparwyd arfau safonol y troedfilwr, mysged a bidog.[5]

Yn ystod y 18g ni ddefnyddiwyd y grenadwyr cymaint, ond cedwid hwy fel lluoedd elît i arwain y blaengyrch.[5] Recriwtiwyd mathau gwahanol o grenadwyr fel rhan o'r drefn Ewropeaidd o fataliwn sy'n cynnwys pedwar cwmni, ond nid oedd fawr o wahaniaeth rhwng swyddogaethau'r grenadwr a milwr rheolaidd y gadres. Defnyddid march-grenadwyr am gyfnod ym myddinoedd Prydain a Gwlad Belg. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf hyfforddid is-unedau'r bataliynau i daflu bomiau llaw ac i saethu grenadau reiffl.[6] Nid yw'r grenadwr bellach yn bodoli, ond cedwir yr enw mewn ambell uned megis Gwarchodlu'r Grenadwyr yn y Fyddin Brydeinig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 111.
  2. Geiriadur yr Academi, [grenadier].
  3.  talfilwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Mehefin 2016.
  4.  John Walters (1828). An English and Welsh Dictionary. Google Books.
  5. 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) British Grenadiers – Soldier Profile. Military History Monthly (14 Tachwedd 2011). Adalwyd ar 19 Mehefin 2016.
  6. 6.0 6.1 (Saesneg) grenadier. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2016.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: