Grand Tours

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am ras seiclo yw hon. Am y gyfres ar geir, gan Amazon, gweler The Grand Tour.

Yn y byd seiclo mae'r term Grand Tour yn cyfeirio at un o dair prif ras aml-gymalog y byd seiclo proffesiynol sef y Tour de France, y Giro d'Italia a'r Vuelta a España.

Mae'r tair ras yn debyg gan eu bod yn cael eu cynnal dros dair wythnos gyda chymalau dyddiol. Mae ganddynt statws arbennig yn yr UCI gan fod mwy o bwyntiau ar gael i'w hennill ar Gylchdaith Byd yr UCI yn y Grand Tours nac mewn unrhyw ras arall[1] a dyma'r unig rasys aml-gymalog sydd yn cael parhau yn hirach na 14 diwrnod[2].

Y Tour de France ydy'r hynaf o'r tair ras a'r un fwyaf mawreddog[1] gyda'r Giro d'Italia yn ail bwysicaf. Y Tour, y Giro a Phencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd ydy Coron Driphlyg y byd beicio[3][4][5].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "UCI Cycling regulations". t. 56. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-14. Cyrchwyd 2016-08-18.
  2. "UCI Cycling regulations". t. 41. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-23. Cyrchwyd 2016-08-18.
  3. "An American in Italy". cyclingnews.com. 5 Mai 2009.
  4. "Million dollar, baby!". cyclingnews.com. Unknown parameter |dyddoad= ignored (help)
  5. "Vuelta a España A-Z". cyclingnews.com. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)