Gorllewin Swydd Northampton

Oddi ar Wicipedia
Gorllewin Swydd Northampton
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr Edit this on Wikidata
Poblogaeth429,013 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Northampton
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.25°N 1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000062 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of West Northamptonshire Council Edit this on Wikidata
Map

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Northampton, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Gorllewin Swydd Northampton (Saesneg: West Northamptonshire).

Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,377 km², gyda 406,733 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2020.[1] Mae'n ffinio â Gogledd Swydd Northampton i'r gogledd-ddwyrain, yn ogystal â siroedd Swydd Buckingham i'r de-ddwyrain, Swydd Rydychen i'r de-orllewin, Swydd Warwick i'r gorllewin, a Swydd Gaerlŷr i'r gogledd-orllewin.

Gorllewin Swydd Northampton yn Swydd Northampton

Ffurfiwyd yr ardal fel awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2021[2] pan unwyd y tair ardal an-fetropolitan Ardal Daventry, Ardal De Swydd Northampton a Bwrdeistref Northampton, a oedd gynt dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Northampton.

Mae ei phencadlys yn nhref Northampton. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Brackley, Daventry a Towcester.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2021
  2. The Northamptonshire (Structural Changes) Order 2019; Gwefan deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 23 Awst 2021