Gogledd-ddwyrain Fife (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia

Cyfesurynnau: 56°18′57″N 2°57′55″W / 56.31583°N 2.96528°W / 56.31583; -2.96528

Gogledd-ddwyrain Fife
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Gogledd-ddwyrain Fife yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd1983
Aelod SeneddolWendy Chamberlain
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Nifer yr aelodau1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Gogledd-ddwyrain Fife yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn ffiniau dinesig swydd Fife. Ceir etholaeth arall o'r un enw - sy'n ethol cynrychiolydd i Senedd yr Alban.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Stephen Gethins, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Cipiwyd y sedd gan Wendy Chamberlain ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2019.

Aelod Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod Plaid
1983 Barry Henderson Ceidwadwyr
1987 Menzies Campbell Rhyddfrydwyr
1992 Y Democratiaid Rhyddfrydol
2015 Stephen Gethins SNP
2017 Stephen Gethins SNP
2019 Wendy Chamberlain Y Democratiaid Rhyddfrydol

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015