Godre'r-graig

Oddi ar Wicipedia
Godre'r-graig
Tirlithriad Mynydd Allt-y-grug yn 1963
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7468°N 3.8106°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN751069 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Ystalyfera, bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Godre'r-graig.[1][2] Fe'i lleolir yng Nghwm Tawe ar bwys y briffordd A4067 tua 3.5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bontardawe.

Ar ochr uchaf y pentref saif ardal Y Graig Arw a Phant-teg, sy'n cysylltu Godre'r-graig ag Ystalyfera.

Capel Pant-teg oedd yr addol-dý cyntaf ym mhentref a chymuned Ystalyfera; fe'i codwyd gan y gymuned eu hunain a hynny yn 1821. Prynnwyd y tir ar lês o 999 mlynedd am geiniog neu ddwy yn unig ac enwyd y capel gan y Parch. John Davies o Alltwen.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[5]

Yn etholiad lleol 2012 daeth 43.81% i fwrw eu pleidlais a'r canlyniad oedd:

Ymgeisydd Plaid Pleidleisiau Statws
Rosalyn Davies Plaid Cymru 300 Plaid Cymru yn dal eu gafael
Jackie Myers Llafur 286

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 28 Rhagfyr 2021
  3. www.ystalyfera-history.co.uk; gwefan Saeneg; adalwyd 6 Ionawr 2015
  4. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  5. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato