Glynwr

Oddi ar Wicipedia

Hylif yw glynwr,[1] cyflynydd[1] neu rwymwr[2] a ychwanegir i sylwedd sych i roi iddo ansawdd cyson.[3] Er enghraifft, yn y Byd Clasurol defnyddiwyd wyau, cwyr, mêl, a bitwmen i lynu gronynnau pigmentau wrth wneud paent.[4] Defnyddiwyd wyau hyd yr 16g, a gelwir yn dempera wy.[5] Ers hynny defnyddir olew fel prif lynwr paent.[6] Yng ngherfluniaeth fodern defnyddir glynwyr organig, sef glud a ddaw o anifail neu gwm a ddaw o blanhigyn.[7] Yn y byd adeiladu, defnyddir sment fel glynwr wrth wneud concrit a morter.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [binder].
  2.  Termau Adeiladwaith (Saesneg-Cymraeg) [binder]. Sgiliaith, Coleg Llandrillo. Adalwyd ar 9 Hydref 2013.
  3. Arthur Williams (2005). The sculpture reference illustrated: contemporary techniques, terms, tools, materials, and sculpture. Sculpture Books, tud. 40
  4. Janet Burnett Grossman (2003). Looking at Greek and Roman sculpture in stone: a guide to terms, styles, and techniques. Getty Publications, tud. 18. URL
  5. (1995) Collector's Guide. WingSpread, tud. 109. URL
  6. Tim Bruckner, Zach Oat, and Ruben Procopio (2010). Pop Sculpture: How to Create Action Figures and Collectible Statues. Random House Digital, tud. 37. URL
  7. Oppi Untracht (1982). Jewelry concepts and technology. Random House Digital, tud. 351. URL