Glyn Simon

Oddi ar Wicipedia
Glyn Simon
Ganwyd14 Ebrill 1903 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mehefin 1972 Edit this on Wikidata
Taunton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddArchesgob Cymru Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Roedd William Glyn Hughes Simon, DD (14 Ebrill 190314 Gorffennaf 1972) yn Archesgob Cymru o 1968 hyd 1971.

Addysgwyd ef yng Ngholeg Crist, Aberhonddu o 1913 ymlaen, ac aeth i Goleg Iesu, Rhydychen yn 1922. Daeth yn Warden Coleg Sant Mihangel, Llandaf; roedd y bardd R. S. Thomas yn fyfyriwr yno yr un adeg. Fel Deon Llandaf, ef oedd yn bennaf gyfrifol am atgyweirio'r Eglwys Gadeiriol wedi iddi gael ei difrodi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys comisynu cerflun enwog Epstein, Majestas. Daeth yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, gan ddod yn gefnogwr i'r iaith Gymraeg yn y cyfnod yma, yna'n Esgob Llandaf, lle cefnogodd ordeinio merched yn ddiaconiaid.

Fel Archesgob Cymru daeth i sylw trwy ymweld a Dafydd Iwan yn y carchar yn ystod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1970. Bu ganddo bedwar plentyn, ond bu farw un yn ieuanc; un arall yw'r beirniad celf Robin Simon.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Owain W.Jones, Glyn Simon, His Life and Opinions (1981).

Llyfrau gan Glyn Simon[golygu | golygu cod]

  • The Origins of the Church in Wales, and her History up to the Reformation (Cyngres yr Eglwys yng Nghymru,1953).
  • Torch Commentary I Corinthians (1959).
  • Then and Now (primary visitation) (1961).
  • The Landmark (1962).
  • Feeding the Flock (1964).
  • A Time of Change (second visitation) (1966).
Rhagflaenydd :
Edwin Morris
Archesgob Cymru
William Glyn Hughes Simon
Olynydd :
Gwilym Owen Williams