Gloddaeth

Oddi ar Wicipedia
Gloddaeth
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstad Gloddaeth Edit this on Wikidata
LleoliadLlandudno Edit this on Wikidata
SirLlandudno Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr61.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3095°N 3.799°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Hen blasdy yn ardal y Creuddyn, bwrdeisdref sirol Conwy, yw Gloddaeth. Saif ym mhlwyf Llanrhos i'r de o dref Llandudno.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn Oes y Tywysogion Gloddaeth oedd un o'r "trefi" canoloesol pwysicaf yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos. Yn ôl tradoddiad, sefydlwyd plasdy yno gan un Iorwerth Goch o'r Creuddyn, efallai yn y 13g. Roedd ei ddigynydd Gruffudd ap Rhys ap Gruffudd o'r Goddaeth, yn byw yno ym 1448. Yn y flwyddyn honno collodd saith o'i blant (pum mab a dwy ferch) i'r Pla. Canodd y bardd Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd farwnad i'r saith.

Ond er bod iddo hanes hen, mae'r plasdy presennol yn dyddio i'r 16g. Fe'i codwyd yn oes Elisabeth I o Loegr gan Thomas Mostyn, aelod o deulu grymus y Mostyniaid. Cefnogai'r Mostyniaid achos y Tuduriaid adeg Rhyfeloedd y Rhosynnau, ac ymladdodd Rhisiart ap Hywel, Arglwydd Mostyn, ym myddin Harri Tudur ym Maes Bosworth (1485), gan arwain 1,500 o wŷr y gogledd. Yn ôl yr hanes, gwrthododd Rhisiart le yn llys y brenin newydd, gan ateb ei fod yn well ganddo fyw yng Ngloddaeth "gyda'i bobl ei hun".

Bu plasdy Gloddaeth yn gartref i un o'r casgliadau pwysicaf o lawysgrifau Cymreig. Cafodd y llyfrgell hynafol ei symud i blasdy Mostyn yn ddiweddarach. Cyfeirir atyn nhw fel 'Llawysgrifau Mostyn'.

Ar bentan prif aelwyd y plasdy ceir y geiriau

Heb Dduw, heb Ddim.
Duw a Digon.

Parhaodd rhai aelodau o'r teulu i fyw yno hyd at 1935 pan gafodd ei defnyddio fel ysgol breswyl i ferched, a gaeodd ym 1964. Ym 1965, rhoddodd Arglwydd Mostyn y brydles i Goleg Dewi Sant (St David's College), ysgol breifat i fechgyn, ac erbyn hyn mae'r neuadd yn un o adeiladau'r coleg hwnnw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)
  • Rev. Robert Williams, The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood (Dinbych, 1835)