Geraint ac Enid

Oddi ar Wicipedia
Geraint ac Enid
Enghraifft o'r canlynolgwaith creadigol Edit this on Wikidata
Rhan oY Tair Rhamant Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Canol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddic. 1150 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Chwedl Arthuraidd Gymraeg o'r Oesau Canol yw Geraint ac Enid, weithiau Geraint fab Erbin. Mae'n un o'r tair stori (rhamant) Arthuraidd a adnabyddir wrth y teitl Y Tair Rhamant. Y ddwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw Iarlles y Ffynnon a Peredur fab Efrawg.

Geraint ac Enid, llun yn argraffiad 1877 o gyfieithiad Charlotte Guest o'r Mabinogion

Mae'r chwedl yn cyfateb i'r gerdd Ffrangeg Erec et Enide gan Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Credir i'r chwedl Gymraeg gael ei llunio yn ail hanner y 12g.

Yn y chwedl mae Geraint yn gefnder i'r brenin Arthur. Clyw Arthur fod carw gwyn yn y goedwig, ac mae'n cychwyn allan i'w hela. Daw Gwenhwyfar, gwraig Arthur, i ddilyn yr helfa yng nghwmi Geraint, a chaiff ei sarhau gan Edern fab Nudd. Ni all Geraint ddial ei sarhad ar y pryd gan nad yw'n arfog. Dilyna ar ôl Edern i chwilio am gyfle i ddial arno. Mae'n aros mewn hen lys adfeiliedig, lle mae'n cyfarfod Enid ferch Ynywl Iarll ac yn dial ar Edern trwy ei orchfygu mewn twrnamaint. Daw ag Enid i lys Arthur, a phriodir hwy.

Yn fuan wedyn, daw negeswyr oddi wrth dad Geraint, Erbin fab Custennin, yng Nghernyw, sydd eisiau i Geraint ddychwelyd i'w helpu i amddiffyn ei deyrnas. Aiff Geraint ac Enid i lys ei dad gyda gosgordd o wŷr Arthur. Gorchfyga Geraint lawer o farchogion, ond ymhen tipyn daw i garu esmythyd ac aros adref gyda'i wraig. Yn y gwely un bore mae Enid, yn siarad a hi ei hun, yn gofidio fod Geraint wedi peidio a bod yn arwr bellach. Deffry Geraint a'i chlywed, ac mae'n mynd ag Enid allan gydag ef i chwilio am anturiaethau a'i thrin yn arw. Gorchfyga nifer o farchogion sy'n ymosod arnynt.

Cyrhaeddant i fan lle mae Arthur a'i wŷr, ac mae Geraint yn gorchfygu Cai pan gais ei orfodi i ddod at Arthur, yna'n ymladd a Gwalchmai. Yn y diwedd, cymodir Geraint ac Enid.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Testunau[golygu | golygu cod]

  • Y Tair Rhamant- y testun wedi'i ddiweddaru gan Bobi Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1960.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich, 'Dwy chwedl a thair rhamant', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1976)
  • Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 1986. ISBN 0-7083-0915-1

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]