Georgia Ruth

Oddi ar Wicipedia
Georgia Ruth
Ganwyd5 Ionawr 1988 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arddullcanu gwerin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.georgiaruthmusic.co.uk/ Edit this on Wikidata

Cantores a thelynores gwerin a blws yw Georgia Ruth, (ganwyd Georgia Ruth Williams; 5 Ionawr 1988[1]). Mae Georgia yn canu ac yn cyfansoddi yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Magwyd hi yn Aberystwyth, a dechreuodd ganu'r delyn pan oedd yn saith oed. Ar ôl graddio o Brifysgol Caergrawnt yn 2009 bu'n byw yn Llundain ac wedyn yn Brighton cyn iddi ddod yn ôl i Gymru. Ar hyn o bryd (2013) mae hi'n byw yng Nghaerdydd. Mae hi'n cyflywno sioe wythnosol ar C2.

Steil a Dylanwadau[golygu | golygu cod]

Datblygodd Georgia steil anarferol mewn canu'r delyn, mwy fel chwarae gitâr na'r dull traddodiadol. Bydd hi'n canu mewn steil gwerin ond mae arlliw o'r blws yn y canu hefyd. Yn ôl Georgia, mae dylanwadodd lawer arni: Meic Stevens, Bert Jansch, Nick Drake, St Vincent, Richard Thompson, Charlotte Gainsbourg, Teddy Thompson, Joan as Policewoman, Toumani Diabete, Nick Cave, Aimee Mann ac Ani DiFranco.

Gyrfa Gynnar[golygu | golygu cod]

Pan oedd Georgia'n fyfyrwraig ac yn fuan wedi hynny, cafodd enw da am ei pherfformiadau. Perfformiodd i gynulleidfaoedd mawr fel Gŵyl Sŵn a Gŵyl Glastonbury. Cafodd gasgliad o bedair cân, tair Saesneg ac un Gymraeg, ei recordio yn 2010, sydd ar gael o dan yr enw "Georgia Ruth". Cyhoeddwyd "In Luna" (EP) yn 2012 ar label Gwymon. Y flwyddyn ganlynol cynhyrchodd ei halbwm cyntaf, "Week of Pines".

2013 - Week of Pines[golygu | golygu cod]

Ym mis Mai 2013 rhyddhawyd "Week of Pines" a gafodd ei recordio yn stiwdio Bryn Derwen, Gwynedd y flwyddyn flaenorol. Cafodd yr albwm ei groesawu ar unwaith gan adolygwyr. "The Welsh harpist Georgia Ruth is a rare talent, able to transcend borders of language, style and age with apparent ease" yw enghraifft o'r ymateb, gan Andy Gill, yn The Independent.[2] Enillodd Georgia Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2013 am yr albwm.

Cafodd Georgia ei henwebu am wobr mewn dau gategori y 2014 Radio 2 Folk Awards.

Yn 2014 cafodd Georgia wahoddiad i ganu ar albwm Futurology gan Manic Street Preachers. Canodd hi gyda James Dean Bradfield ar y trac Divine Youth.

Discograffiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BBC Wales: Music
  2. Gwefan Yr Independant Archifwyd 2013-12-20 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 4 Medi 2013.