George Latham

Oddi ar Wicipedia
George Latham
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnGeorge Latham
Dyddiad geni(1881-01-10)10 Ionawr 1881
Man geniY Drenewydd, Cymru
Dyddiad marw9 Gorffennaf 1939(1939-07-09) (58 oed)
Man lle bu farwY Drenewydd, Cymru
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1897–1902Y Drenewydd
1902–1909Lerpwl18(0)
1909–1910Southport Central
1910–1911Stoke8(0)
1921Dinas Caerdydd1(0)
Cyfanswm27(0)
Tîm Cenedlaethol
1905–1913Cymru10(0)
Timau a Reolwyd
1924Tîm Olympaidd Prydain Fawr
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd George Latham (10 Ionawr 1881- 9 Gorffennaf 1939). Llwyddodd i ennill 10 cap dros Gymru rhwng 1905 a 1913 ac roedd yn hyfforddwr ar dîm Caerdydd pan enillodd yr Adar Gleision Gwpan FA Lloegr ym 1927.

Gyrfa bêl-droed[golygu | golygu cod]

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Latham ei yrfa gyda ei glwb lleol, Y Drenewydd ym 1897 cyn ymuno gyda Lerpwl ym 1902 a throi'n broffesiynol gyda'r clwb ym 1903[1]. Bu rhaid iddo ddisgwyl hyd nes Ebrill 1905 cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb a dim ond 19 o gemau chwaraeodd yn ei gyfnod yn Anfield. Ym 1909, ymunodd â Southport Central yn y Lancashire Combination League gan ddod y chwaraewr cyntaf yn hanes y clwb i ennill cap rhyngwladol[2].

Ym 1910 ymunodd â Stoke gan chwarae wyth gwaith yn ystod tymor 1910-11[3] cyn symud i Gaerdydd lle roedd yn hyfforddwr i'r clwb tra'n gwneud ambell i ymddangosiad i'r tîm cyntaf. Roedd yn aelod o dîm Caerdydd enillodd Gwpan Cymru ym 1912 wrth drechu Pontypridd mewn gêm ail chwarae[4].

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Enillodd Latham 10 cap dros Gymru rhwng 1905 a 1913. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Yr Alban yn Wrecsam ym 1905 ym muddugoliaeth cyntaf erioed i'r Cymru dros yr Albanwyr. Chwaraeodd Latham ym mhob un o gemau Cymru yn ystod Pencampwriaeth Prydain ym 1906-07, y tro cyntaf erioed i Gymru ennill y bencampwriaeth[5].

Enillodd yr olaf o'i 10 cap tra'n hyfforddwr gyda Chymru. Ar ôl teithio i Belfast ar gyfer gêm yn erbyn Iwerddon bu rhaid i Latham chwarae gan fod Cymru chwaraewr yn brin.[1]

Gyrfa hyfforddi[golygu | golygu cod]

Yn ei rôl fel hyfforddwr cafodd Latham wahoddiad i hyfforddi tîm pêl-droed Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis ac roedd yn hyfforddwr ar dîm Caerdydd lwyddodd i ennill Cwpan FA Lloegr ym 1927[6]

Gyrfa milwrol[golygu | golygu cod]

Ar ôl gwsanaethu yn Ail Ryfel y Boer, ymunodd Latham â 7ed Bataliwn (Meirionnydd a Threfaldwyn) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd Latham yn Rhyfel y Boer ac fel swyddog yn y Fyddin Tiriogaethol cafodd ei alw i ymuno â'r 7th (Merioneth & Montgomery) Btn, Royal Welsh Fusiliers ar ddechrau'r Rhyfel Mawr[7]. Roedd y bataliwn yn rhan o'r ymgyrch yn Gallipoli ym mis Awst 1915, cyn cael eu gyrru i'r Yr Aifft i fod yn rhan o'r 53rd Welsh Division ym Mrwydr Romani ger Camlas Suez.

Yn ystod Brwydr Cyntaf Gaza ym mis Mawrth 1917, cafodd Latham ei urddo â'r Groes Filwrol am ei ddewrder wrth gipio bryn Ali Muntar rhag byddinoedd yr Ymerodraeth Otoman[8] a chafodd bar i'w Groes Milwrol yn ystod Ail a Thrydedd Brwydr Gaza pan lwyddodd y Bataliwn i gipio Beersheba, Tell Khuweilfe a Jerusalem[9]

Ym mis Hydref 1918, wedi'r cadoediad gyda'r Ymerodraeth Ottoman, cafodd y Bataliwn eu gyrru i Alexandria yn Yr Aifft. Dechreuodd Latham hyfforddi tîm pêl-droed y bataliwn ac enillodd y bataliwn Gynghrair Bêl-droed Byddinoedd Prydain (Yr Aifft) ym 1919 gyda Latham wrth y llyw a bachgen arall o'r Drenewydd, Harry Beadles, yn aelod allweddol o'r tîm.

Ymddeoliad[golygu | golygu cod]

Dioddefodd Latham ddamwain beic difrifol ym 1936 a bu rhaid iddo ymddeol o'i rôl hyfforddi gyda Chaerdydd a symudodd yn ôl i'r Drenewydd a bu farw ym mis Gorffennaf 1939[1].

Ym 1951 penderfynodd Clwb Pêl-droed Y Drenewydd enwi eu maes yn ei enw ac agorwyd Parc Latham ar 25 Awst 1951[7].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gareth M. Davies ac Ian Garland (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. t. 122. ISBN 1-872424-11-2.
  2. "The Southport Story" (PDF). Southport FC (pdf). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-03-23. Cyrchwyd 2016-02-02.
  3. Matthews, Tony (1994). The Encyclopaedia of Stoke City. Lion Press. ISBN 0-9524151-0-0.
  4. "Welsh Cup 1911-2". Welsh Football Data Archive.
  5. Guy Oliver (1992). The Guinness Record of World Soccer. Guinness. ISBN 0-85112-954-4.
  6. "Manager hero of 1927 FA Cup win". BBC Wales.
  7. 7.0 7.1 "George Latham". Penmon.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-14. Cyrchwyd 2016-02-02.
  8. "London Gazette" (PDF) (pdf). 14 Awst 1917.
  9. "London Gazette". 16 Gorffennaf 1918.