Gafsa

Oddi ar Wicipedia
Gafsa
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth111,170 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iNapoli, Palma de Mallorca Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGafsa Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd45 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr297 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.42°N 8.78°E Edit this on Wikidata
Cod post2100 Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn Nhiwnisia yw Gafsa (hefyd Qafsah; Arabeg: قفصة‎), sy'n brifddinas talaith Gafsa. Amcangyfrifir fod tua 90,000 o bobl yn byw ynddi, sy'n ei gwneud y ddinas 9fed fwyaf yn Tiwnisia.

Dinas ddiwydiannol ydyw, sy'n ganolfan i'r diwydiant mwyngloddio ffosffad. Bu'n ddinas Rufeinig a cheir olion baddonai Rhufeinig yno. Mae'n gorwedd 369 km i'r de-orllewin o Diwnis.

Yn Ionawr 2008 bu gwrthdystio ar raddfa helaeth yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Ben Ali yn Gafsa. Gelwir hyn yn "wrthryfel" gan rai. Ni chafodd ei grybwyll o gwbl gan gyfryngau Tiwnisia. Dywedir fod y llywodraeth wedi cymryd camrau llym yn erbyn y protestwyr.[1]

Canol Gafsa
Baddon Rhufeinig yn Gafsa

Gefeillddinas[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.