Francesco Petrarca

Oddi ar Wicipedia
Francesco Petrarca
Ganwyd20 Gorffennaf 1304 Edit this on Wikidata
Arezzo Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 1374 Edit this on Wikidata
Arquà Petrarca Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, bardd, cyfieithydd, awdur geiriau, ysgrifennwr, dringwr mynyddoedd, hunangofiannydd, ieithegydd, dyneiddiwr, Catholic cleric Edit this on Wikidata
Adnabyddus amIl Canzoniere, Secretum, De viris illustribus, Rerum memorandarum libri, De otio religioso, De vita solitaria, De remediis utriusque fortunae, Invectivarum contra medicum quendam libri IV, Itinerarium ad sepulchrum domini nostri Yhesu Christi, Liber sine nomine, Invectiva contra eum qui maledixit Italiam, Invectiva contra quendam magni status, Bucolicum carmen, Africa, Epistolae familiares, Historia Griseldis, Triumphs Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, rhyddiaith Edit this on Wikidata
OlynyddPetrarchism Edit this on Wikidata
TadPetracco Edit this on Wikidata
MamEietta Canigiani Edit this on Wikidata
Gwobr/auPoet's Crown Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bardd, awdur ac ysgolhaig Eidalaidd oedd Francesco Petrarca, hefyd Pertrarch (20 Gorffennaf 1304 - 19 Gorffennaf 1374). Ystyrir ef yn un o ffigyrau amlycaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal a sylfaenydd Dyneiddiaeth.

Cafodd ei eni yn Arezzo. Roedd ei dad wedi ei alltudio o Fflorens gyda Dante fel un o arweinwyr y Welfiaid, a threuliodd Petrarca ei ieuenctod yn Avignon. Astudiodd ym Montpellier (1319-1323) cyn astudio'r gyfraith yn Bologna o 1323 hyd 1325. Daeth yn gyfeillgar a Giovanni Boccaccio. Yn 1326, wedi marwolaeth ei dad, dychwelodd i Avignon, lle parhaodd i astudio'r clasuron Lladin.

Er ei fod ef ei hun yn ystyried mai ei weithiau athronyddol mewn Lladin oedd ei weithiau pwysicaf, daeth yn enwog am ei gerddi mewn Eidaleg, y Canzoniere, yn enwedig ei gerddi serch i "Laura". Galwyd y soned Betrarchaidd ar ei ôl.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Africa (arwrgerdd am Scipio Africanus)
  • De viris illustribus
  • Rerum memorandarum libri
  • Canzoniere