Fodca

Oddi ar Wicipedia

Diod feddwol sy'n tarddu o Rwsia yw fodca (Rwseg: водка, vodka). Diod ddi-liw ydyw, sy'n cael ei gwneud o rawn megis rhyg a gwenith, neu datws. Caiff y ddiod ei distyllu, a weithiau gwneir hyn sawl tro.

Fel arfer mae gan fodca gynnwys alcohol o rhwng 35% a 50% yn ôl unedau cyfaint. Mae'r fodca Rwsaidd, Lithiwanaidd a Pwylaidd yn 40% (80 prawf alcohol). Gellir priodoli hyn i safonau cynhyrchu fodca Rwsiaidd a gyflwynwyd gan Alexander III ym 1894.[1] Yn ôl yr Amgueddfa Fodca ym Moscow, darganfu'r cemegwr Rwsaidd Dmitri Mendeleev (a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn datblygu'r Tabl Cyfnodol) mai'r canran perffaith o alcohol yn ei farn ef oedd 38.[2][3] Fodd bynnag, am fod gwirodydd yn cael eu trethu yn ôl canran yr alcohol a oedd ynddynt, aethpwyd a'r rhid i 40 er mwyn hwyluso'r gwaith trethu. Mae rhai llywodraethau wedi gosod lleiafswm cynnwys alcohol ar gyfer diodydd a elwir yn "fodca". Er enghraifft, dywed yr Undeb Ewropeaidd fod yn rhaid cael lleiafswm o 37.5% o alcohol yn ôl unedau cyfaint.[4]

Yn draddodiadol caiff fodca ei yfed ar ei ben ei hun yng ngwledydd Dwyrain Ewrop; deillia ei boblogrwydd mewn gwledydd eraill oherwydd ei addasrwydd ar gyfer coctêls a diodydd cymysg eraill, fel y Bloody Mary, Screwdriver, Fodca Martini neu Fodca Tonic.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. O waith ymchwil a wnaed gan y cemegwr Rwsaidd Dmitri Mendeleev
  2. Recipes4all.com. Adalwyd 19-09-2009
  3. Wineglobe.com Archifwyd 2009-04-26 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 19-09-2009
  4. Gwefan Britannica Adalwyd 03-04-2009
Chwiliwch am fodca
yn Wiciadur.