Fine Gael

Oddi ar Wicipedia
Fine Gael
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
IdiolegDemocratiaeth Gristnogol, liberal conservatism, pro-Europeanism, rhyddfrydiaeth economaidd Edit this on Wikidata
Label brodorolFine Gael Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu8 Medi 1933 Edit this on Wikidata
SylfaenyddW.T. Cosgrave, Frank MacDermot, Eoin O'Duffy Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean People's Party Edit this on Wikidata
PencadlysDulyn Edit this on Wikidata
Enw brodorolFine Gael Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.finegael.ie/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Fine Gael – The United Ireland Party, neu Fine Gael (Gwyddeleg am Deulu neu Dylwyth y Gwyddelod) yw'r ail blaid wleidyddol fwyaf yng Ngweriniaeth Iwerddon ar ôl Fianna Fail. Mae'n hawlio aelodaeth o 30,000,[1] Fine Gael oedd y blaid fwyaf yn etholiad cyffredinol 2011 gan ffurfio Llywodraeth âr Blaid Lafur yn yr 31 Mawrth 2011 yn yr hyn a elwir yn 31ain Dáil Éireann (senedd Gweriniaeth Iwerddon).

Sefydlwyd Fine Gael ar 3 Medi 1933 ar ôl uno ei mam-blaid Cumann na nGaedheal, y Centre Party a'r Army Comrades Association, neu'r "Blueshirts".[2] Gorwedd ei gwreiddiau yn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon a'r pleidiau a fu o blaid y Cytundeb Eingl-Wyddelig yn Rhyfel Cartref Iwerddon, gan uniaethu yn enwedig â Michael Collins fel sefydlydd y mudiad[3] a'r rhai a gefnogodd sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Free State; Gwyddeleg: Saorstát Éireann).

Mae'r Fine Gael fodern yn ei disgrifio ei hun fel plaid y canol progresif, a'i gwerthoedd canolog yn seiliedig ar bolisi ariannol gofalus, hawliau a dyletswyddau'r unigolyn a'r farchnad rydd. Maent yn gadarn o blaid integreiddio yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn gwrthwynebu gweriniaetholdeb Wyddelig dreisgar. Mewn cyd-destun ehangach, mae'r blaid yn perthyn i sbectrwm y pleidiau Democratiaeth Gristnogol yn Ewrop.[4] Fine Gael yw'r unig blaid Wyddelig sy'n rhan o Blaid Pobl Ewrop (EPP) yn Strasbourg; mae ei ASEau yn eistedd yn y grwp EPP-ED. Ffurfiwyd adain ieuenctid y blaid, Young Fine Gael, ym 1977 ac mae ganddi tua 4,000 o aelodau.[5]

Daeth Enda Kenny yn arweinydd ar 5 Mehefin 2002.[6] Roedd Kenny yn Taoiseach y Weriniaeth rhwng 2011-2017. Arweinydd gyfredol Fine Gael a'r toaiseach gyfredol yw Leo Varadkar.

Arweinwyr y blaid[golygu | golygu cod]

Arweinydd Cyfnod Etholaeth
Eoin O'Duffy 1933-34 Dim[7]
W.T. Cosgrave 1934-44 Carlow-Kilkenny
Richard Mulcahy 1944-59[8][9] Tipperary
James Dillon 1959-65 Monaghan
Liam Cosgrave 1965-77 Dún Laoghaire
Garret FitzGerald 1977-87 De-ddwyrain Dulyn
Alan Dukes 1987-90 De Kildare
John Bruton 1990-2001 Meath
Michael Noonan 2001-02 Dwyrain Limerick
Enda Kenny 2002-2017 Mayo
Leo Varadkar 2017-heddiw Gorllewin Dulyn

Baner Fine Gael[golygu | golygu cod]

Baner hanesyddol Fine Gael

Chwifiwyd y faner yn hanesyddol wrth ymyl baner Iwerddon. Defnyddiwyd hi gan rhagflaenydd plaid Fine Gael, sef Cumann na nGaedheal, a ffacsiwn y tu fewn iddi, y lle-ffasgaidd, y 'crysau gleisio', Blueshirts. Dyluniad y faner yw croes goch sawtyr Padrig Sant ar faes glas tywyll, sef un o liwiau cenedlaethol Iwerddon (fel gwelir yn sêl a baner Arlywydd Iwerddon).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Join Fine Gael" 2007 Archifwyd 2010-07-25 yn y Peiriant Wayback..
  2. Gerard O'Connell Hanes Fine Gael Archifwyd 2008-08-19 yn y Peiriant Wayback..
  3. The Irish Times. Legacy of the Easter Rising Archifwyd 2007-11-17 yn y Peiriant Wayback..
  4. Fine Gael: "Our Values" Archifwyd 2007-11-19 yn y Peiriant Wayback..
  5. RTÉ News. [1].
  6. RTÉ News (5 June 2002). "Enda Kenny elected Fine Gael leader".
  7. Nid oedd gan O'Duffy sedd yn yr Oireachtas fel arweinydd y blaid.
  8. Pan fu Mulcahy yn aelod o Senedd Iwerddon ym 1944, gweithredodd Tom O'Higgins fel arweinydd seneddol.
  9. Rhwng 1948 a 1959, gwasanaethodd John A. Costello fel arweinydd seneddol.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]