Ffrwydradau fflatiau yn Rwsia

Oddi ar Wicipedia
Ffrwydradau fflatiau yn Rwsia
Enghraifft o'r canlynolymosodiad terfysgol cydgysylltiedig, ymosodiad gyda bom, structural failure, llofruddiaeth torfol Edit this on Wikidata
DyddiadMedi 1999 Edit this on Wikidata
Lladdwyd307 Edit this on Wikidata
Rhan oAil Ryfel Tsietsnia Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Medi 1999 Edit this on Wikidata
Daeth i ben16 Medi 1999 Edit this on Wikidata
LleoliadMoscfa, Buynaksk, Volgodonsk Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBuynaksk bombing, Guryanova Street bombing, Kashirskoye Highway bombing, Volgodonsk bombing Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres o ffrwydradau bom oedd y ffrwydradau fflatiau yn Rwsia a darodd pedwar bloc o fflatiau yn ninasoedd Buynaksk, Moscfa, a Volgodonsk yn Ffederasiwn Rwsia ym mis Medi 1999, gan ladd 293 o bobl ac anafu 651. Cafodd nifer o fomiau eraill eu dadffiwsio ym Moscfa ar y pryd. Cafodd bom tebyg ei ganfod a'i ddadffiwsio yn ninas Ryazan ar 23 Medi 1999. Trannoeth, datganodd Nikolai Patrushev, Cyfarwyddwr y Wasanaeth Diogelwch Ffederal (FSB), yr oedd y digwyddiad yn Ryazan yn ymarferiad hyfforddi.

Ynghŷd â goresgyniad Dagestan yn Awst 1999 gan filisia Islamiaidd Shamil Basayev ac Ibn al-Khattab, achosodd y ffrwydradau i Rwsia gychwyn Ail Ryfel Tsietsnia. Er datganodd al-Khattab ar 2 Medi y bydd mujahideen Dagestan yn cael dial ar Rwsia, ar 14 Medi gwadodd cyfrifoldeb am y ffrwydradau.

Yn 2002, penderfynodd ymchwiliad swyddogol gan yr FSB y cafodd y ffrwydradau eu cynllunio gan Achemez Gochiyaev a'u gorchymyn gan Ibn Al-Khattab ac Abu Omar al-Saif. Cafwyd chwe pherson arall yn euog gan lysoedd Rwsia. Mae nifer wedi honni yr oedd y ffrwydradau yn ymosodiadau baner ffug gan yr FSB er mwyn ennill cefnogaeth cyhoedd Rwsia dros ryfel newydd yn Tsietsnia. Mae eraill wedi dadlau nad oes digon o dystiolaeth dros y ddamcaniaeth gydgynllwyniol hon.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]