Ffliw adar

Oddi ar Wicipedia
Firws ffliw A, y firws sy'n achosi ffliw adar.

Math o ffliw yw ffliw adar a all gael ei drosglwyddo o adar (yn bennaf dofednod) i fodau dynol. Mewn rhai gwledydd ar hyn o bryd mae'r ffliw (H5N1) yn episŵtig, ac o 2004 daeth yn fwy tebygol y byddai'n troi'n epidemig neu'n pandemig (yn fyd-eang). Gwelwyd y ffliw ymysg adar gwledydd Prydain am y tro cyntaf ar ddiwedd mis Mawrth, 2006 yn Cellardyke, Fife yn yr Alban. Profwyd alarch fawr a ddarganfuwyd yng nghanol y môr yn bositif am y feirws H5N1.

Ar ddydd Iau, 24 Mai 2007, cadarnheuwyd gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yr achos cyntaf o ffliw adar yng Nghymru wedi ei ddarganfod ar fferm yn Llanfihangel Glyn Myfyr, sir Conwy.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.