Ffantasi erotig

Oddi ar Wicipedia
Un o luniau Édouard-Henri Avril: ffantasi'r dyn yn y blaendir ydy'r hyn dani'n weld yn y cefn.

Delwedd yn yr meddwl, neu ddychymyg person ydy 'Ffantasi erotigsydd hefyd yn medru bod yn genre llyfr, meddalwedd, ffilm ayb. Mae'n batrwm o feddyliau sy'n medru cynhyrfu teimladau rhywiol person, a dyna yw ei fwriad.[1]

Gall y ffantasi bara eiliadau e.e. drwy weld llun, ffotograff neu wrthrych, neu fe all bara am amser hwy e.e. llenyddiaeth, catwn neu stori erotig fel hentai neu ffilm bornograffig. Gall unrhyw beth sy'n cynhyrfu person yn rhywiol yn medru arwain at ffantasi erotig, a cheir llawer iawn o wahanol fathau, o ddychmygu gwisgo dillad lledr neu rwber i gyfathrach rywiol.

Math o ffantasi rhywiol meddal ydy Ecchi (エッチ), sef y gair Japani am 'fochaidd' neu 'fufur' ac o fewn ecchi sy'n reit boblogaidd o fewn manga Shōnen, manga Seinen ac anime harem gan ei fod yn deilio gyda rhyw meddalach na hentai e.e. dillad isaf merched. Yn yr 1960au, roedd y gair yn golygu "rhyw" yn yr ystyr cyffredinol, ond erbyn 1965, roedd hyd yn oed plant oed cynradd yn defnyddio'r gair etchi kotoba am "rhywiol". Yn y 1980au roedd yn golygu caru (etchi suru) (to [make] love).[2][3] Mae debygol i'r gair darddu o symbol cyntaf y gair hentai (変態),[4]

Anaml mae'r ffantasi yn troi'n reality, fodd bynnag. Mae na dabŵ ar y ffantasi fel arfer, sy'n rhwystro cymdeithas rhag trafod pethau fel hyn. Y gyfaddawd ydy chwarae rôl, ac mae hyn yn ffordd i'r person gogio mae person arall ydyw, ac felly mae ei gydwybod yn ei brocio llai gan fod chwarae rôl yn fwy derbyniol gan gymdeithas. Gall y ffantasi fod yn brofiad positif neu yn brofiad negatif. Yn aml, mae'n digwydd oherwydd i'r person gael ei greithio'n seicolegol yn y gorffennol. Mae'r Beibl yn gwahardd ffantasi erotig neu rywiol yn Mathew 5:28.

Llenyddiaeth a chelf[golygu | golygu cod]

Mae'r term hefyd yn gallu golygu genre o lenyddiaeth, ffilm, neu waith celf erotig. Yn enw 'celf' yn aml, mae rhai ffantasiau erotig yn dderbyniol, ond a fyddai yn cael eu gwahardd y tu allan i'r llwyfan. Engheifftiau o hyn ydy Business Is Business (1971) ac Amarcord (1973), American Beauty (1999).

Ffantasiau cyffredin[golygu | golygu cod]

Y ffantasi rhywiol mwyaf cyffredin i wryw a benyw ydy Rhyw geneuol.

Mae ffantasiau erotig yn digwydd yn gyffredinol, drwy'r byd, ondmae na wahaniaeth yn y math o berson: oedran, rhyw, gogwydd rhyw a chymdeithas. Oherwydd rhesymau seicoleg a thabŵ mae rhai pobl yn amharod i ddatgelu eu teimladau a'u ffantasiau, ac felly mae unrhyw ymchwil yn syrthio'n glep ar ei wyneb.[5][6] Ond mae'r ymchwil gorau yn datgan mai'r tri prif ffantasi ydy: ailfyw pleser rhywiol yn y gorffennol, dychmygu rhyw gyda phartner persennol a dychmygu rhyw gyda phartner rhywun arall. Yna daw: rhyw geneuol, rhyw mewn lleoliad rhamantus a pwer dros eraill / rhyw yn groes i ewyllus person.

Ffantasi Nifer a weithredodd ar y ffantasi (%) Nifer a oedd yn ffantasio (%)
anffyddlondeb 16 30
rhyw rhwng tri 14 21
rhyw yn y gweithle 12 10

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Leitenberg & Henning 1995, t. 470.
  2. Mark McLelland (2006). A Short History of 'Hentai'. In: Intersections: Gender, History and Culture in the Asian Context. Cyfrol. 12.
  3. Cunningham, Phillip J. (1995). Zakennayo!. Penguin Group. t. 30.
  4. "エッチ" (yn Japanese). 語源由来辞典.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. Joyal, Cossette & Lapierre 2015.
  6. Leitenberg & Henning 1995, t. 481.