Ffa Coffi Pawb

Oddi ar Wicipedia
Ffa Coffi Pawb
Enghraifft o'r canlynolcynulliad cerddorol Edit this on Wikidata
Label recordioAnkst Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1986 Edit this on Wikidata
Dod i ben1992 Edit this on Wikidata
Genreseicadelia newydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGruff Rhys, Dafydd Ieuan Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd y band Ffa Coffi Pawb yng nghanol yr 1980au gan Gruff Rhys a Rhodri Puw. Ymunodd Dewi Emlyn a Dafydd Ieuan yn ddiweddarach.

Buont yn recordio caneuon yng nghartref Rhodri Puw am gyfnod, ar offer stereo cartref. Wedi mynychu cyfarfodydd Pop Positif - cyweithfa cerddorol a sefydlwyd ym Mangor gan Rhys Mwyn - daethont i gysylltiad a Gorwel Owen, Recordiau Ofn. Rhyddhawyd fersiwn o'u can Octopws ar dap aml-gyfrannog Pop Positif. Arweiniodd y recordiad yma at ffrae gyda grwp lleol amlwg arall, Tynal Tywyll, wedi i Nathan, gitarydd y grwp hwnnw, ail-recordio rhan o Octopws. Bu'r grwp yn gyfrifol am recordio tair record hir. Dalec Peilon oedd y gyntaf, a ryddhawyd ar Recordiau Huw (label Huw Gwyn) ym 1988. Dilynwyd hon gan Clymhalio, a ryddhawyd ar Ankst ym 1991, a wedyn Hei Vidal ym 1992.

Gruff Rhys, Ffa Coffi Pawb; Roc Ystwyth 1989.

Dros y cyfnod yma, datblygodd y grŵp ysgrifennu caneuon arbrofol, nid yn annhebyg i Jesus and Mary Chain, i ysgrifennu caneuon pop gyda naws 70au. Chwaraeodd y grŵp eu gig olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, ym 1993. Cafodd casgliad o oreuon Ffa Coffi Pawb Am Byth ei ryddhau ar label Placid Casual yn 2004. Aeth Gruff Rhys a Dafydd Ieuan ymlaen i ffurfio'r Super Furry Animals. Bu Rhodri Puw yn chwarae gyda Psycho VII am gyfnod, a wedyn Gorky's Zygotic Mynci. Mae Dewi Emlyn yn gweithio gyda'r Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a sawl band arall. Rhyddhaodd Gruff ddau albwm hwyrach yn ei yrfa, Yr Atal Genhedlaeth a Candylion.