Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen

Oddi ar Wicipedia
Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen
Ganwyd1845 Edit this on Wikidata
Sir y Fflint Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1927 Edit this on Wikidata
Amwythig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd Edit this on Wikidata
TadJohn Ralph Ormsby-Gore Edit this on Wikidata
MamSarah Tyrell Edit this on Wikidata
PriodLloyd Kenyon, Thomas Mainwaring Bulkeley-Owen Edit this on Wikidata
PlantLloyd Tyrell-Kenyon Edit this on Wikidata

Hanesydd, hynafieithydd Cymreig a llenor yn yr iaith Saesneg oedd Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen (184525 Tachwedd 1927). Hi oedd unig ferch John Ralph Ormsby-Gore, Barwn 1af Harlech a Sarah Tyrell (1816 - 1876).[1]

Priododd yr Anrhydeddus Lloyd Kenyon (m. 1865) yn gyntaf yn 1863 a chawsant fab o'r enw Lloyd Tyrell-Kenyon (5 Gorffennaf 1864 - 30 Tachwedd 1927) a ddaeth yn 4ydd barwn Kenyon, gan ddilyn ei daid yn y farwniaeth. Priododd Fanny eilwaith yn 1880 gyda'r Parch. Thomas Mainwaring Bulkeley-Owen o Tedsmore, West Felton (m. 1910).[2]

Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn ei theulu, yr ardal ac mewn mudiadau Cymreig, yn enwedig rhai diwylliannol a'i henw barddol oedd "Gwenrhian Gwynedd". Yn 1927 cyhoeddodd lyfr ar hanes plwyf Selatyn a oedd yn cynnwys Brogyntyn sef cartref ei thad. Ysgrifennodd hefyd femorandwm manwl i'r Comisiwn Tir yn 1894, sef hanes y Maelor Saesneg. Bu farw yn yr Amwythig ar 25 Tachwedd 1927.

Priododd ei mab Lloyd ferch o'r enw Gwladys Julia Howard.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]