Esperanto

Oddi ar Wicipedia
Baner Esperanto

Yr iaith artiffisial fwyaf llwyddiannus a dylanwadol yw Esperanto. Mae ganddi fwy o siaradwyr nag unrhyw iaith artiffisial arall. Daw'r enw o'r ffugenw "Dr Esperanto", a ddefnyddid gan ddyfeisiwr yr iaith L. L. Zamenhof. Ystyr yr enw yn yr iaith Esperanto yw "yr un sy'n gobeithio".

Iddew o Białystok a symudodd i fyw yn Warsaw oedd Zamenhof. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf ar yr iaith, "Unua Libro", yn 1887 ar ôl gweithio arni am ryw ddeng mlynedd. Nod Zamenhof oedd cynorthwyo pobloedd yr holl fyd i ddeall ei gilydd yn well. Nid oedd yn bwriadu i Esperanto ddisodli unrhyw iaith arall ond yn hytrach i fod yn ail iaith ryngwladol a niwtral

Mae cefnogwyr Esperanto yn gweld dwy brif fantais i'r iaith. Maent yn honni ei bod yn hawdd iawn i'w dysgu, ac mae hyn yn amlwg. Nid yw'n perthyn i unrhyw grŵp cenedlaethol neu ethnig yn fwy nag i unrhyw grŵp arall. Mae pob iaith ryngwladol arall wedi lledaenu oddi wrth un grŵp ethnig (megis y Saeson a'r Americanwyr yn achos Saesneg, neu'r Ffrancod yn achos Ffrangeg).

Geiriau[golygu | golygu cod]

Saluton  Sut mae
Bonan matenon  Bore da
Bonan vesperon  Noswaith dda
Bonan nokton  Nos da
Ĝis revido  Hwyl fawr
Kiel vi fartas?  Sut dych chi?
Dankon  Diolch
Nedankinde  Croeso (llyth. dim haeddu diolch)
Bonvolu (+ berfenw), Mi petas  Os gwelwch yn dda
Vivu Kimrio!  Cymru am byth!
Kimrio por ĉiam  Cymru am byth (llyth.)
La Drako Ruĝa  Y Ddraig Goch
 

Adeiladu geiriau[golygu | golygu cod]

Mae Esperanto yn iaith ddodiadol iawn sy'n defnyddio blaenddodiadau ac olddodiaidau wrth adeiladu geiriau er mwyn lleihau'r gwreiddiau gwahanol. Oherwydd ei natur dodiadol mae hi'n iaith reolaidd iawn. Er enghraifft, mae'r gwraidd "san-", sy'n golygu "iach", yn cynhyrchu amrywiaeth eang o eiriau gydag arddodiadau gwahanol; mae'r tabl canlynol yn cynnwys pigion ohonynt:

gair Esperanto cyfieithiad Cymraeg sylw
sana iach "-a" yw'r terfyniad ansoddeiriol
sano iechyd "-o" yw'r terfyniad enwol
sani bod yn iach "-i" yw'r terfyniad berfol (annherfynol)
malsana sâl mae blaenddodiad "mal-" yn cynhyrchu'r ystyr cyferbyniol
malsano salwch
malsani bod yn sâl
sanulo person iach mae olddodiad "-ul-" yn cyfeirio at berson â rhyw ddisgrifiad
malsanulo person sâl
malsanulejo ysbyty mae olddodiad "-ej-" yn cyfeirio at le; mae'n golygu yn llythrennol "lle pobl di-iach" felly

Gellir uno mwy nag un gwraidd hefyd. Er enghraifft, mae'r gwraidd naz- yn golygu "trwyn", ac mae'r gwraidd tru- yn golygu "twll", felly mae naztruo yn golygu "ffroen".

Llyfrau Cymraeg ar Esperanto[golygu | golygu cod]

  • G. Griffiths, Agoriad i'r iaith gyd-genedlaethol Esperanto (Lerpwl, c.1910) ; ail argraffiad wedi ei ddiwygio gan y Canon W.H. Harris, Agoriad neu Allwedd i'r iaith gyd-genedlaethol Esperanto (1956).
  • J.C. Wells, Geiriadur Esperanto / Kimra Vortaro (Llundain, 1985).

Yr wyddor Esperanto[golygu | golygu cod]

llythyren 
   ynganiad
a  a
b  b
c  ts ("z" yn Almaeneg/Eidaleg)
ĉ  "ch" yn Saesneg
d  d
e  e
f  ff
g  g
ĝ  j
h  h
ĥ  ch
i  i
j  i byr/cytsain (fel yn "ia" / "mai")
ĵ  "j" yn Ffrangeg
k  c
l  l
m  m
n  n
o  o
p  p
r  r
s  s
ŝ  si ("sh" yn Saesneg)
t  t
u  w
ŭ  w cytsain (fel yn "naw", "tew")
v  f
z  "z" yn Saesneg

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]