Esgobaeth y Pab

Oddi ar Wicipedia
Esgobaeth y Pab
Mathsubject of international law, Apostolic see, polity Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Lladin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Y Fatican Y Fatican
Cyfesurynnau41.9°N 12.5°E Edit this on Wikidata
Corff gweithredolLlys y Pab Edit this on Wikidata
Map

Esgobaeth yr Eglwys Gatholig yn ninas Rhufain sydd dan awdurdod y Pab ei hun yw Esgobaeth y Pab, yr Esgobaeth Sanctaidd, neu'r Babaeth (Eidaleg: Santa Sede; Lladin: Sancta Sedes) sy'n meddu sofraniaeth annibynnol. Hon yw pencadlys yr Eglwys Babyddol a chanolbwynt y cymundeb Catholig drwy oruchafiaeth y Pab ac felly ei esgobaeth.

Arfbais Esgobaeth y Pab, sy'n dangos allweddi San Pedr.

Defnyddir enw'r "Fatican" yn gyfystyr ag Esgobaeth y Pab yn aml, ond nid yr un endid ydynt: crëwyd Dinas y Fatican, tiriogaeth sy'n glofan yn Rhufain, yn wladwriaeth gan Gytundeb y Lateran ym 1929. Mae Esgobaeth y Pab yn dyddio'n ôl i gychwyn y Babaeth yn yr oes Gristnogol gynnar a chenhadaeth San Pedr yn Rhufain. Gan ei bod yn meddu sofraniaeth, gellir ystyried yr Esgobaeth yn llywodraeth ar Ddinas y Fatican, sy'n cynnal cysylltiadau diplomyddol gyda gwledydd eraill ac yn gweinyddu'r Fatican drwy Lys y Pab. Mae ganddi statws sylwedydd yn y Cenhedloedd Unedig.