Enoc Huws

Oddi ar Wicipedia
Enoc Huws
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurDaniel Owen Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1891 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Nofel gan Daniel Owen yw Profedigaethau Enoc Huws. Cyhoeddwyd y nofel gyntaf ym 1891, ac yn ddiweddar addaswyd hi ar gyfer y teledu.

Mae'n rhoi hanes Enoc Huws, a fagwyd yn blentyn amddifad ond sydd, trwy waith caled, gonestrwydd a charedigrwydd, yn dod yn fasnachwr llwyddiannus. Mewn gwrthgyferbyniad, y prif gymeriad arall yw Capten Trefor, twyllwr di-egwyddor sydd yn ymddangos wedi ennill cyfoeth mawr yn y diwydiant mwyngloddio plwm, ac sydd yn denu eraill i 'fuddsoddi' yn ei fenter. Ofnwn y bydd Enoc Huws, sydd â golwg ar Susan, merch y Capten, yn cael ei ddifetha yn yr un ffordd.

Themâu[golygu | golygu cod]

Er yn thema ddifrifol, adroddir ambell i ddigwyddiad doniol, yn enwedig gyda pherthynas Enoc a'i forwyn, Marged. Tu ôl i'r hiwmor fodd bynnag, gwelir elfennau gwir a thywyll. Gellir ystyried ymddygiad Marged yng nghyd-destun safle menywod yn y gymdeithas Fictoraidd. Gwelir ofn merched y cyfnod o'r tloty. Mae ymddygiad y Plismon (er hefyd yn ddoniol) yn dangos llwfrdra a strwythur dosbarth y gymuned: cawn fechgyn o deuluoedd "da" yn meddwi ac yn cael eu hebrwng adref er mwyn i'w teuluoedd roi "anrheg" i'r plismon tra bod bechgyn o deuluoedd llai parchus yn meddwi ac yn cael eu hebrwng i'r ddalfa. Gellir dadlau mai llun go gymhleth sydd i'w weld yn y nofel.

Brwydr rhwng y da a'r drwg yw thema'r llyfr ond mae tro annisgwyl tuag at ddiwedd yr hanes sy'n creu amheuaeth a yw'r da am orchfygu.