Emyr Humphreys

Oddi ar Wicipedia
Emyr Humphreys
Ganwyd15 Ebrill 1919 Edit this on Wikidata
Trelawnyd Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 2020 Edit this on Wikidata
Llanfair Pwllgwyngyll Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, nofelydd, darlithydd, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantDewi Humphreys, Siôn Humphreys Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Hawthornden, Llyfr y Flwyddyn, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Llenor, bardd a nofelydd Cymreig oedd Emyr Owen Humphreys (15 Ebrill 191930 Medi 2020)[1], ac un o nofelwyr mwyaf blaengar Cymru.[2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar a theulu[golygu | golygu cod]

Ganwyd Humphreys yn Nhrelawnyd[3] ger Prestatyn, Sir y Fflint, yn fab i William Humphreys, ysgolfeistr y pentref a sylfaenydd ac arweinydd Côr Meibion Trelawnyd[4] a Sarah Rosina (née Owen), ei wraig. Cefnder trwy waed a brawd iddo trwy fabwysiad oedd yr awdur Y Parchedig Ganon John Elwyn Humphreys OBE, Lisbon[5]; Roedd tad Emyr yn gyfyrder i'r Prifardd Hedd Wyn. Mynychodd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Siaradwr Saesneg yn unig oedd Humphreys ond dechreuodd ddysgu'r Gymraeg wedi i ysgol fomio Penyberth yn Llŷn gael ei llosgi ym 1936 ac ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith.[6][7][8]

Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle bu'n cyd-letya gyda'r cyfreithiwr a'r awdur, Emyr Currie-Jones.

Ym 1946 priododd Elinor Myfanwy Jones yng Nghaernarfon a bu iddynt tri mab ac un ferch - Sion, Mair, Robin a Dewi. Mae Dewi, ei fab hynaf, yn gyfarwyddwr teledu a fu'n gyfrifol am raglenni megis The Vicar of Dibley ac Absolutely Fabulous[9]. Mae ei ail fab Siôn yn gyfarwyddwr ffilm a theledu a fu'n gyfrifol am raglenni megis Pengelli a Teulu yn ogystal â sawl ffilm Gymraeg nodedig. Bu ei wyr Eitan ap Dewi yn chwaraewr rygbi rhyngwladol yn chware yn safle’r mewnwr i dîm Israel[10] .

Gyrfa broffesiynol[golygu | golygu cod]

Aeth ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[6] Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939.[11] Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[12] Carcharwyd Humphreys am wrthod prynu trwydded deledu yn ystod y 1970au mewn protest yn erbyn diffyg lle a statws i'r Gymraeg ar y teledu yng Nghymru.[7][8]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Daeth yn llenor llawn amser ym 1972.[8] Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a chyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.[12]

Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn.[6] Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999.[12][13] Yn 2004, enillodd Humphreys wobr cyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru.[14] Roedd Humphreys yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru [15]ac o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth[12] ac yn un o noddwyr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.[16]

Disgrifwyd ef gan R. S. Thomas fel "the supreme interpreter of Welsh life".[12]

Roedd yn byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn lle bu farw yn 101 mlwydd oed.[6][8]


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofio'r llenor a'r 'cawr diwylliannol' Emyr Humphreys , 30 Medi 2020.
  2.  Emyr Humphreys. Wales Arts International. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
  3.  A Man's Estate by Emyr Humphreys. Library of Wales. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
  4. "Côr Meibion Trelawnyd - History adalwyd 10 Mai 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-17. Cyrchwyd 2016-05-10.
  5. 90th birthday celebrated among friends adalwyd 10 Mai 2016
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3  BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
  7. 7.0 7.1  Old People are a Problem By Emyr Humphreys. The Independent (22 Mehefin 2003). Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3  Gogledd Orllewin: Llên: Emyr Humphreys. BBC Lleol. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
  9. "TV.Com - Dewi Humphreys adalwyd 10 Mai 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-14. Cyrchwyd 2016-05-10.
  10. Israeli National Rugby Team Facebook adalwyd 10 Mai 2016
  11.  Steve Dube (18 Ebrill 2009). Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window. Wales Online. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
  12. 12.0 12.1 12.2 12.3 12.4  Emyr Humphreys - Biography. British Council. Adalwyd ar 4 Chwefror 2010.
  13.  Past Winners and Judges. Academi. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
  14.  Emyr Humphreys - enillydd Gwobr Siân Phillips 2004 Gogledd Orllewin: Pigion: Emyr Humphreys - enillydd Gwobr Siân Phillips 2004. BBC Lleol. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
  15. Thomas, M Wynn (2020). "Cymdeithas Ddysgedig Cymru - Emyr Humphreys, Cymrawd". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
  16.  Writing Wales in English. Prifysgol Abertawe. Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]