Einir Jones

Oddi ar Wicipedia
Einir Jones
Ganwyd1950 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCoron yr Eisteddfod Genedlaethol Edit this on Wikidata

Bardd, beirniad cenedlaethol ac addasydd llyfrau plant ydy Einir Jones (g. 1950 yn Sir Fôn). Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991.[1]

Gweld y Garreg Ateb (Gwasg Gwynedd, 1991) - ail gyfrol y Prifardd Einir Jones.

Mae hefyd yn feirniad cenedlaethol, gan gynnwys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.

Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Bangor. Bellach mae'n byw yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, ac yn dysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Mae'n briod â'r Parch John Talfryn Jones.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2016-08-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 4 Awst 2016.