Einion Wan

Oddi ar Wicipedia
Einion Wan
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1230 Edit this on Wikidata

Roedd Einion Wan (fl. tua 1210 - 1245) yn un o Feirdd y Tywysogion a gysylltir â theyrnasoedd Gwynedd a Phowys yn ail chwarter y 13g.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ni wyddys dim am fywyd y bardd ac eithrio'r hyn y gellir ei gasglu o dystiolaeth y chwe cherdd ganddo sydd wedi goroesi. Mewn canlyniad y cwbl y medrem ddweud â sicrwydd yw ei fod wedi canu i Lywelyn Fawr a'i feibion Dafydd a Gruffudd yng Ngwynedd tua diwedd ei deyrnasiad ac i'r tywysog Madog ap Gruffudd Maelor o Bowys tua'r un adeg. Gan fod cyfran sylweddol o'i waith ar goll ni ellir dweud yn bendant ei fod yn frodor o un o'r teyrnasoedd hynny, er bod hynny'n ymddangos yn dra thebygol. Ar un adeg ceisiai rhai ysgolheigion uniaethu Einion Wan a'i gyfoeswr Einion ap Gwgon, ond ni dderbynnir hynny bellach. Dichon fod yr epithet (g)wan yn cyfeirio at eiddilwch ei gorff.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Chwech o gerddi gan Einion Wan sydd wedi goroesi, a cheir y testunau cynharaf yn Llawysgrif Hendregadredd a Llyfr Coch Hergest. Canodd gerdd o fawl ar ffurf cadwyn o englynion i Lywelyn Fawr, sydd efallai i'w ddyddio i'r cyfnod cyn 1215-1218. Ceir cerddi mawl i Ddafydd ap Llywelyn a'i frawd Gruffudd yn ogystal. Mae'r gerdd i Ddafydd yn enghraifft o gerdd dadolwch, sy'n ceisio cymod rhwng y bardd a'i noddwr. Ym Mhowys, canodd gerdd o foliant i'r tywysog Madog ap Gruffudd, un o ddeiliaid mwyaf ffyddlon Llywelyn Fawr.[1]

Cedwir dwy farwnad nodedig o waith y bardd.[1] Mae un ohonynt yn farwnad i Fadog ap Gruffudd a'r llall yn farnwad i Lywelyn Fawr ei hun. Mae marwnad Llywelyn ar ffurf cadwyn o englynion, ac ar sail hynny mae modd awgrymu iddi gael ei ganu o flaen gosgordd y tywysog, efallai yn ei brif lys yn Aberffraw gan fod pwyslais yn y canu ar gysylltiadau Llywelyn â Môn a'r golled i wŷr yr ynys ar ôl Llywelyn. Dyma un o'r englynion:

Iorferth esillydd! Arfogion——ei hil!
Hael gynnil gynrheinion!
Gwae ni, Wynedd orchorddion,
Gweled llawr ar llyw mawr Môn.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Peredur I. Lynch (gol.), 'Gwaith Einion Wan', yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol VI.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Peredur I. Lynch (gol.), 'Gwaith Einion Wan'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch