Egwad

Oddi ar Wicipedia
Egwad
GanwydYstrad Tywi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Blodeuodd7 g Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Maen Eiudon, maen cerfiedig hynafol o eglwys Sant Egwad, Llanfynydd

Sant Cymreig oedd Egwad (bl. 7g).[1] Fe'i gysylltir ag Ystrad Tywi (sy'n cyfateb yn fras i Sir Gaerfyrddin).

Hanes[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn a wyddys amdano. Yn ôl yr achau roedd yn un o feibion Cynddilig ap Cenydd ap Gildas. Tybir y bu yn ei flodau ar ddechrau'r 7g.[1]

Sefydlodd ddau eglwys yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, un yn Llanegwad a'r llall yn Llanfynydd. Eglwys Sant Egwad yw eglwys plwyf Llanfynydd. Mae'r maen eglwysig cerfiedig a fu yno yn Amgueddfa Cymru bellach. Yno hefyd mae bedd yr emynydd Morgan Rhys; ar ddiwedd ei oes daeth i fyw yn Llanfynydd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
  2. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gar (Cyfres Crwydro Cymru, 1955).