Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Middlewich

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMiddlewich Edit this on Wikidata
SirSwydd Gaer
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.1926°N 2.4446°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ7039066250 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Normanaidd, pensaernïaeth Gothig Seisnig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iMihangel Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Caer Edit this on Wikidata

Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion yw eglwys blwyf Anglicanaidd Middlewich yn Swydd Gaer, Lloegr.[1] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II*. Fe'i adeiladwyd gyda thywodfaen coch tua 1500 ac fe'i atgyweiriwyd gan Joseph Clarke rhwng 1857 a 1860.[2] Yn 1947 disgrifiodd yr hanesydd pensaernïol Raymond Richards yr eglwys fel "yr unig adeilad, mewn tref ddigalon, sy'n fwyn ac yn urddasol".

Mae rhannau o'r eglwys yn dyddio o'r 12g – rhan isaf y tŵr o bosibl, ond yn fwy tebygol arcêd gul y bae dwyreiniol.[3][4][5] Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r eglwys yn ystod y cyfnod rhwng tua 1480 a 1520. Adeiladwyd capel Mair ym mhen dwyreiniol yr ystlys ddeheuol ac ychwanegwyd porth deulawr i'r ochr ddeheuol. Yn y ganrif olynol ychwanegwyd capel Kinderton ym mhen dwyreiniol ystlys y gogledd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan yr eglwys
  2. Gwefan historicengland.org.uk Gwefan Historic England
  3. Charles Frederick Lawrence (1895), History of Middlewich, Eachus and Son, Sandbach
  4. "St. Michael and All Angels, Middlewich", The Corpus of Romanesque Sculpture in Britain and Ireland, archifwyd o y gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2012, https://archive.today/20120728193410/http://www.crsbi.ac.uk/search/county/site/ed-ch-middl.html, adalwyd 13 Mehefin 2010
  5. Richards, Raymond (1947), Old Cheshire Churches, London: B. T. Batsford, pp. 234–237