Efyddau Benin

Oddi ar Wicipedia
Efyddau Benin
Enghraifft o'r canlynolgroup of sculptures Edit this on Wikidata
Mathcerfddelw, cerfwedd Edit this on Wikidata
Deunyddcopper alloy Edit this on Wikidata
LleoliadAmgueddfa Ethnolegol Berlin, yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Genedlaethol Nigeria Edit this on Wikidata
RhanbarthBenin City Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Casgliad o gerfluniau efydd a phres o ddiwylliant y bobl Edo yw Efyddau Benin a fu'n addurno'r palas brenhinol yn Nheyrnas Benin yng Ngorllewin Affrica o'r 16g i'r 19g. Maent yn cynnwys miloedd o blaciau addurnedig, pennau, ffigurau o bobl ac anifeiliaid, teyrndlysau, ac addurniadau personol.

Cynhyrchwyd Efyddau Byddin gan gerflunwyr metel o'r urddau crefft a oedd yn gweithio i lys yr Oba (brenin) yn Ninas Benin, a leolir bellach yn Nigeria. Derbyniwyd nawdd brenhinol hefyd gan urddau a oedd yn arbenigo mewn defnyddiau eraill, megis ifori, lledr, cwrel, a phren, ac weithiau defnyddir y term Efyddau Benin i grybwyll pethau a gynhyrchwyd gan y rheiny.[1] Comisiynwyd nifer o'r celfi ar gyfer allorau teuluol yr hen frenhinoedd a mam freninesau, ac mae'r placiau yn cynnwys tystiolaeth o freninllinau ac hanes cymdeithasol y deyrnas.

Daeth Efyddau Benin dan feddiant yr Amgueddfa Brydeinig ac amgueddfeydd eraill ar draws Ewrop yn sgil ysbeilio Dinas Benin gan luoedd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1897. Cedwir rhyw 900 o gelfi a gipiwyd o Benin o hyd yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig.[1] Mae Ewuare II, Oba Benin ers 2016, wedi galw ar amgueddfeydd a chasglwyr preifat i ddychwelyd Efyddau Benin i Nigeria. Yn 2023, cyhoeddodd Muhammadu Buhari, Arlywydd Nigeria, ddatganiad i gydnabod yr Oba yn berchennog cyfreithlon ar Efyddau Benin, ac yn mynnu y dylai unrhyw o'r trysorau a ddychwelir i Nigeria gael ei trosglwyddo i feddiant yr Oba.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Benin Bronzes", Yr Amgueddfa Brydeinig. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) "Nigeria Benin Bronzes: Buhari declaration 'blindsides' museum officials", BBC (10 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Mai 2023.