Eddie Parris

Oddi ar Wicipedia
Eddie Parris
Ganwyd31 Ionawr 1911 Edit this on Wikidata
Pwllmeurig Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 1971 Edit this on Wikidata
Caerloyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auBath City F.C., A.F.C. Bournemouth, Cheltenham Town F.C., Luton Town F.C., Northampton Town F.C. Edit this on Wikidata
Saflecanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Pêl-droediwr Cymreig oedd John Edward ("Eddie" neu "Ted") Parris (31 Ionawr 19111971) a chwaraeodd i glybiau Bradford Park Avenue, AFC Bournemouth, Luton Town, Bath City, Northampton Town a Cheltenham Town. Ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gynrychioli Cymru.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Eddie Parris ym Mhwllmeurig, Casgwent, Sir Fynwy, Cymru, i fam wyn a du Jamaicaidd,[1] a'r ddau ohonynt wedi'u geni yng Nghanada. Chwaraeodd dros Gasgwent tan i'w ddoniau dynnu sylw sgowtiaid Bradford Park Avenue A.F.C., a oedd bryd hynny yn glwb llewyrchus, ac fe gafodd ei arwyddo ar brawf yn 1928. Chwaraeodd ei gem gyntaf yn Ionawr 1929, a sgorio unig gol Bradford mewn gem gyfartal gyda Hull yng Nghwpan Lloegr. Cafodd le yn y tîm cyntaf wedi hynny, a byddai'n chwarae ar yr asgell chwith. Yn ystod ei yrfa yn Bradford Park Avenue, chwaraeodd 142 o gemau Cynghrair a Chwpan a sgoriodd 39 gol.

Yn Rhagfyr 1931 chwaraeodd Parris ei unig gem dros Wales yn erbyn Iwerddon yn Belffast, a dod yn y chwaraewr du cyntaf i gynrychioli Cymru mewn gem ryngwladol. 

Fel hyn y disgrifiodd y Daily Mail ef yn 1932: 'Mae Parris yn gyflym, a chanddo reolaeth o'r bel, ac nid ychydig o athrylith pel-droed.'

Dioddefodd Parris anaf yn 1934, a chwaraeodd yn ddiweddarach i Bournemouth (1934–37), Luton, Northampton, Bath City, Cheltenham Town a Gloucester City. Gweithiodd ar ol hynny mewn ffatri ffrwydron rhyfel a ffatri awyrennau. Roedd yn byw yn Sedbury ger Casgwent,[2] a bu farw yn Swydd Gaerloyw, Lloegr, yn 1971.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Shipton, Martin (7 Awst 2008). "Move to honour Wales' first black footballer".
  2. Bradford City Football Club Museum, Eddie Parris: A Welsh Pioneer, 30 September 1912