Dyled

Oddi ar Wicipedia
Cartŵn o rhywun mewn dyled.

Mae dyled yn cyfeirio at dâl sy'n ddyledus i berson neu gwmni arall, hy yr hyn y mae gan rywun hawl iddo naill ai'n gorfforol neu yn drosiadol. Yn yr ystyr arferol o'r gair, ceir dau barti i'r ddyled: y person sy'n talu'r arian (y dyledwr) a'r person sy'n ei dderbyn (y benthyciwr). Yn yr ystyr drosiadol, mae dyled yn cyfeirio at rwymedigaeth moesol, sydd ddim yn seiliedig ar werth corfforol (e. e. dyled o ddiolchgarwch). Gellid gofyn er enghraifft i Dduw i "faddau ein dyledion". Dyled oedd y ffordd cyntaf o fasnach (system ffeirio) a ddogfennwyd, gyda'r enghreifftiau hynaf yn bodoli ers 2,900 o flynyddoedd cyn dyfodiad arian. Heddiw, mae llawer o enghreifftiau o fenthycwyr o ddyled ariannol sy'n cynnwys banciau, cwmnïau cerdyn credyd, darparwyr benthyciad diwrnod cyflog, unigolion, ac ati. Mewn llawer o achosion, mae benthyg gan y benthyciwr yn amodol ar gytundebau sy'n dynodi'r swm a'r cyfnod y dylid ad-dalu'r ddyled; maent yn aml yn cynnwys taliadau o ran o'r swm gwreiddiol a fenthyciwyd a'r llog a godir arno.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]