Dwyrain Swydd Dunbarton (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Dwyrain Swydd Dunbarton
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Dwyrain Swydd Dunbarton yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolAmy Callaghan SNP
Nifer yr aelodau1
Crewyd oStrathkelvin a Bearsden
Clydebank a Milngavie
Coatbridge a Chryston
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Dwyrain Swydd Dunbarton yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark.

Roedd yma etholaeth o'r un enw, ond ffiniau gwahanol, rhwng 1950 a 1983.

Wedi Etholiad Cyffredinol, Mai 2015, collod Jo Swinson o'r Democratiaid Rhyddfrydol y sedd a chynrychiolwyd yr etholaeth gan John Nicolson, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Ail-gipiwyd y sedd gan Jo Swinson yn 2017. Fe'i disodlwyd eto yn 2019 gan ymgeisydd yr SNP, Amy Callaghan.

Etholaeth Aelod Plaid
2005 crewyd yr etholaeth
2005 Jo Swinson Y Democratiaid Rhyddfrydol
2015 John Nicolson SNP
2017 Jo Swinson Y Democratiaid Rhyddfrydol
2019 Amy Callaghan SNP

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|