Diwydiant rhyw

Oddi ar Wicipedia

Term a ddefnyddir i ddisgrifio'r amryw fentrau masnachol sy'n cyflogi gweithwyr rhyw, perfformwyr erotig er enghraifft, mewn perthynas â'r hyn a elwir yn gyffredinol yn "adloniant oedolion", sy'n cynnwys pornograffi ac erotica, am ei fod yn cynnwys mathau o adloniant a difyrrwch nad yw'n cael ei ystyried yn addas i blant, yw diwydiant rhyw. Gellid ymestyn y diffiniad o'r diwydiant rhyw i gynnwys puteindai a phuteindra yn gyffredinol hefyd.

Honnir yn aml fod y diwydiant rhyw yn un o'r rhai mwyaf sylweddol yn y byd, gyda phresenoldeb ym mhob gwlad bron. Yn ogystal â'r "alwedigaeth hynaf", mae'r diwydiant yn cynnwys cynhyrchu, dosbarthu a gwerthu ffilmiau i oedolion ("ffilmiau coch"), nifer o safleoedd ar y rhyngrwyd, a thwristaeth ryw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Gweithiwr rhyw mewn puteindy modern yn yr Almaen
Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato