Diwasgedd

Oddi ar Wicipedia
Diwasgedd dros arfordir gorllewinol Gwlad yr Ia
Ffryntiau a'r fap Tywydd

Pan mae dau aergorff gwahanol yn cwrdd, mae'r ffin rhyngddynt yn cael ei alw'n ffrynt. Aergorff ydy dau aer gwahanol. Ym Mhrydain mae hyn i'w weld pan mae aer oer pegynnol yn cwrdd ag aer cynnes trofannol. Mae diwasgeddau yn gysylltiedig ag ardaloedd gwasgedd isel oherwydd mae'r aer o fewn y diwasgedd yn codi a throi.

Diwasgedd yn ffurfio[golygu | golygu cod]

  • Nid yw'r ddau aer yn cymysgu yn hawdd am eu bod mor wahanol.
  • Pan mae'r aer cynnes yn ymestyn at yr aer oer mae yn cael ei orfodi I godi trosto gan ei fod yn ysgafnach.
  • Mae'r ffin rhyngddynt felly yn cael ei alw'n Ffrynt cynnes.
  • Pan mae aer oer yn ymestyn at yr aer cynnes, mae'n gwthio o dano ac felly mae'r ffin yn cael ei alw'n Ffrynt oer.

Ffryntiau Glaw[golygu | golygu cod]

Mae'r cymylau yn ffurfio am fod aer cynnes yn cael ei orfodi i godi. Wrth wneud hyn mae'n oeri ac mae'r dwr yn cyddwyso i ffurfio cymylau a dyodiad. Mae'n cymerud tua 24- 48 awr i'r ffryntaiu fynd heibio

O Flaen y ffrynt cynnes[golygu | golygu cod]

  • Mae'n dechrau cymylu
  • Mae uchder y cymylau yn disgyn
  • Mae'r gwasgedd aer yn lleihau dros amser
  • Mae'n dechrau bwrw glaw yn ysgafn am amser hir.

Yn y sector gynnes[golygu | golygu cod]

  • Mae'r tymheredd yn codi
  • Mae'r awyr fel rheol yn clirio
  • Mae'n sych efo rhai cawodydd

Ar y ffrynt oer[golygu | golygu cod]

  • Mae'n cymylu'n gyflum
  • Mae'r gwynt yn cryfhau
  • Glaw trwm eto, weithiau gyda mellt a tharanau

Tu ol i'r ffrynt oer[golygu | golygu cod]

  • Mae'n oerach
  • Mae yna cawodydd trymion
  • Mae cyfeiriad y gwynt yn aml o'r gogledd orllewin

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]