Disgfyd

Oddi ar Wicipedia
Y nofel gyntaf yn y gyfres Ddisgfyd, The Colour of Magic.

Cyfres o nofelau ffantasi comig yw llyfrau'r Disgfyd (Saesneg: Discworld) a ysgrifennwyd gan y nofelydd Saesneg, Terry Pratchett. Mae'r gyfres wedi ei osod ar fyd fflat sydd wedi ei gydbwyso ar gefn pedwar eliffant sydd yn eu tro yn sefyll ar gefn crwban enfawr, Great A'Tuin, sy'n nofio trwy'r gofod. Mae'r llyfrau yn aml yn gwatwar neu fenthyg syniadau J. R. R. Tolkien, Robert E. Howard, H. P. Lovecraft, a William Shakespeare, yn ogystal â chwedlau a llên gwerin. Bydd Pratchett yn aml yn cyfosod y rhain gyda materion diwylliannol, technolegol a gwyddonol i'w satireiddio.

Ers y nofel gyntaf, The Colour of Magic (1983), mae'r gyfres wedi ehangu, gyda nifer o fapiau, straeon byr, cartŵn ac addasiadau drama yn cael eu cyhoeddi. Darlledwyd yr addasiad drama gyntaf ar gyfer teledu (cyfres ddwy-ran o'r Hogfather) dros Nadolig 2006. Mae yna gynlluniau i greu addasiadau ffilm ar gyfer rhai o'r llyfrau Disgfyd eraill.

Mae'r nofelau Disgfyd yn aml ar frig rhestrau arch-werthwr llyfrau yng ngwledydd Prydain, a Terry Pratchett oedd awdur mwyaf llwyddiannus yr 1990au (ac yr awdur mwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig cyn i J.K. Rowling (awdures Harri Potter) ei oddiweddyd). Mae'r llyfrau Disgfyd hefyd wedi ennill nifer o wobrau fel y wobr Prometheus a'r fedal Carnegie. Yn rhestr Big Read y BBC, roedd pedwar llyfr Disgfyd yn y 100 uchaf, a chyfanswm o un-deg-pedwar llyfr yn y 200 uchaf.

Nofelau[golygu | golygu cod]

Ar hyn o bryd (2009), mae yna 35 llyfr yn y gyfres Ddisgfyd (gan gynnwys 4 llyfr i blant/oedolion ifanc). Roedd gan yr argraffiadau Prydeinig gwreiddiol o'r 26 llyfr cyntaf celf clawr nodedig gan y darluniwr Josh Kirby. Ers marwolaeth Josh Kirby yn 2001, mae llyfrau newydd Disgfyd ers The Last Hero wedi eu darlunio gan Paul Kidby, ac mae argraffiadau diweddar o'r llyfrau cynnar yn defnyddio celf fwy minimalaidd i apelio tuag at fwy o oedolion.

Mae nifer o'r nofelau yn cynnwys yr un prif gymeriadau ac yn dangos eu datblygiad dros amser. Yn ogystal â hynny, bydd nifer o gymeriadau'n gwneud ymddangosiadau cameo mewn llyfrau eraill lle nad ydynt yn un o'r prif gymeriadau. Er bod dim ffurf swyddogol i grwpio'r nofelau, gellir eu rhannu i mewn i îs-gyfresau sy'n dilyn nifer o archion storiâu a chymeriadau tebyg: